Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Llywodraeth Cymru'n Un

Yn 2007, dychwelodd Llafur gyda 26 o seddau – y nifer isaf iddi eu hennill yn etholiadau'r Cynulliad hyd hynny. Gyda Llafur mewn sefyllfa wannach, ystyriodd y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru greu 'clymblaid enfys', ond gwrthodwyd y syniad hwn gan gynhadledd arbennig a gynhaliwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Safodd Rhodri Morgan yn ddiwrthwynebiad fel arweinydd llywodraeth leiafrifol, a chafod ei ethol yn Brif Weinidog Cymru. Fis yn ddiweddarach, cytunwyd ar glymblaid Cymru'n Un â Phlaid Cymru, gan roi mwyafrif o 22 i'r llywodraeth. Roedd y cytundeb hwn yn cynnwys dwy brif elfen, a arweiniodd at ddiwygio'r setliad datganoli: ymrwymiad i adolygu trefn gyllido a chyllid y Cynulliad ac ymrwymiad i gynnal refferendwm ar bwerau deddfu llawn, fel y caniatawyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.