Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2 Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol

Gyda phwerau deddfu eilaidd, gallai ACau gynnig 'gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol' mewn 20 o feysydd polisi a ddiffiniwyd, a mater i ddau Dŷ Senedd y DU wedyn fyddai eu pasio.

  • Meysydd polisi:
  • Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygiad gwledig
  • Henebion ac adeiladau hanesyddol
  • Diwylliant
  • Datblygiad economaidd
  • Addysg a hyfforddiant
  • Yr amgylchedd
  • Tân a gwasanaethau achub a hyrwyddo diogelwch tân
  • Bwyd
  • Iechyd a gwasanaethau iechyd
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Gweinyddiaeth cyhoeddus
  • Lles cymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden
  • Twristiaeth
  • Cynllunio gwlad a thref
  • Dŵr a amddiffyn rhag llifogydd
  • Yr Iaith Gymraeg

Ystyriwyd unrhyw feysydd nad oeddent wedi'u rhestru yn feysydd heb eu datganoli, y byddai Senedd y DU yn deddfu yn eu cylch.

Nid oedd y system hon yn effeithiol gan ei bod yn dibynnu ar amser yn cael ei neilltuo yn San Steffan. Yn ystod dwy flynedd gyntaf y Cynulliad, dim ond pedwar gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol a basiwyd. Cafodd cynigion a oedd yn wleidyddol anodd eu hoedi neu eu hildio, er enghraifft ymgais gan y Cynulliad i atal yr 'hawl i brynu' tai cyngor.