5.3 Confensiwn Cymru Gyfan
Fel rhan o ymrwymiad Cymru'n Un i refferendwm ar fwy o bwerau i'r Cynulliad, lansiwyd Confensiwn Cymru Gyfan ym mis Gorffennaf 2008. Roedd iddo ddau ddiben: egluro'r system bresennol a pharatoi'r ffordd ar gyfer refferendwm posibl ar bwerau deddfu.
Daeth y Confensiwn i'r casgliad nad oedd y mwyafrif o bleidleiswyr yng Nghymru yn deall y trefniadau deddfu presennol ac argymhellodd y dylid symud tuag at bwerau deddfu sylfaenol yn dilyn refferendwm, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Ym mis Chwefror 2010, roedd y Cynulliad wedi cefnogi refferendwm o'r fath. Atododd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth fel y gellid ei gynnal ar 3 Mawrth 2011, ddeufis cyn etholiadau'r Pedwerydd Cynulliad.