6 Y Pedwerydd Cynulliad (2011-2016)
Ffurfiodd y Pedwerydd Cynulliad yn ystod cyfnod cymharol sefydlog yn wleidyddol. Roedd gan Lafur 30 o seddau yn y Cynulliad felly gallai lywodraethu heb bartner mewn clymblaid. Roedd y prif densiynau'n deillio o'r cydberthnasau â llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.
Rhoddwyd pwerau deddfu sylfaenol i'r Cynulliad ar 5 Mai 2011. Gallai bellach ddeddfu yn yr 20 o feysydd a ddatganolwyd i Gymru heb droi at San Steffan. Y darn cyntaf o ddeddfwriaeth a basiwyd oedd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol Cymru, ym mis Tachwedd 2011.