Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.2 Comisiwn Silk

Ym mis Mai 2010, ymrwymodd Llywodraeth Glymblaid y DU, a ffurfiwyd gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, i adolygu setliad datganoli Cymru yn dilyn y refferendwm ar fwy o bwerau yn ei rhaglen lywodraethu.

Ar 11 Hydref 2011, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Cheryl Gillan, Gomisiwn newydd ar Ddatganoli yng Nghymru er mwyn ystyried yr achos dros ddatganoli pwerau ariannol ac adolygu pwerau'r Cynulliad yn gyffredinol. Cafodd ei gadeirio gan gyn-Glerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Paul Silk.

Roedd dwy ran i adroddiad y Comisiwn:

Roedd y rhan gyntaf yn ymwneud â chyllid, lle argymhellodd y dylid datganoli rhai mân drethi, rhai pwerau dros dreth incwm a mwy o bwerau benthyca.

Roedd yr ail ran yn ymwneud â phwerau'r Cynulliad, lle argymhellodd y dylid cynyddu maint y Cynulliad, gan ddatganoli mwy o feysydd cyfrifoldeb a symud at 'fodel cadw pwerau'.