Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Y Pumed Cynulliad (2016-2021)

Ffurfiwyd y Pumed Cynulliad yn ystod cyfnod o newid cyfansoddiadol a gwleidyddol enfawr.

Chwe wythnos ar ôl etholiad y Cynulliad, cynhaliodd Llywodraeth y DU refferendwm ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Yn dilyn hynny, ceisiodd Llywodraeth y DU lywio proses Brexit, yn gyntaf dan arweiniaeth Theresa May ac yna Boris Johnson. Roedd galwadau cynyddol hefyd am ail Refferendwm Annibyniaeth yn yr Alban ymysg cefnogaeth barhaus i'r SNP. Cafodd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn Stromont ei atal am dair blynedd rhwng 2017 a 2020.

Roedd y Cynulliad ei hun yn ansefydlog. Enillodd UKIP saith sedd ond gelwyd yr ACau hyn yn ailgrwpio sawl gwaith mewn trefniadau gwahanol ac fel pleidiau gwahanol yn sgil anghytundebau mewnol. Cefnodd dau aelod o Blaid Cymru, gan eistedd fel aelodau annibynnol. Yn wyneb pwysau mawr yn dilyn marwolaeth un o Weinidogion Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, ymddiswyddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ym mis Ebrill 2018. Penododd Plaid arweinydd newydd yn yr amser hwn hefyd. Penododd y Ceidwadwyr Cymreig ddau.