Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7.1 Codi trethi am y tro cyntaf ers 800 mlynedd

Yn 2018, cododd Llywodraeth Cymru y trethi cyntaf yng Nghymru ers 800 mlynedd. Treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir oedd y rhain, gan ddisodli treth dirlenwi a threth dir treth stamp y DU, yn y drefn honno.

Yn sgil codi'r trethi hyn, sefydlwyd Awdurdod Refeniw Cymru, sy'n gweithredu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac sy'n destun craffu gan Senedd Cymru.

O fis Ebrill 2019, pennodd Llywodraeth Cymru gyfradd treth incwm yng Nghymru. Gallai gweinidogion ddewis amrywio'r gyfradd neu ei chadw'n gyson â chyfraddau Gogledd Iwerddon a Lloegr. Cesglir trethi yn yr un ffordd heddiw gan CThEM.

Yn 2018, dechreuodd Llywodraeth Cymru ystyried pedair treth newydd, sef: treth tir gwag, ardoll gofal cymdeithasol, treth plastig untro a threth twristiaeth.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 11 Datganoli cyllidol (gallwch ddod o hyd i ddolen i gael rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Darllen Pellach)