Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Bil y Farchnad Fewnol a Brexit

Bu proses Brexit yn fater dyrys i'r gweinyddiaethau datganoledig – cafodd hyn ei waethygu gan fethiant amlwg Llywodraethau olynol y DU i ymgysylltu.

Cafodd cydberthnasau anodd eu gwaethygu yn ôl pob golwg gan lywodraethau â safbwyntiau gwleidyddol gwahanol: Llafur yng Nghaerdydd, yr SNP yng Nghaeredin a'r Ceidwadwyr yn Llundain.

Daeth y materion hyn i ben yn hydref 2020 pan gyflwynwyd Bil Marchnad Fewnol y DU. Nododd Llywodraeth y DU mai diben y Bil oedd ‘sicrhau gweithrediad parhaus di-dor marchnad fewnol y DU, ac ymgorffori egwyddorion mewn cyfraith i sicrhau bod rheoliadau o un rhan o'r DU yn cael eu cydnabod ledled y DU gyfan’ (Aralleiriad o Department for Business, Energy & Industrial Strategy, 2020).

Fodd bynnag, roedd gan y gwledydd datganoledig gryn bryderon y byddai'r Bil yn ailganoli pŵer, am ei fod yn cadw cymhwysedd dros gymorth gwladwriaethol a chymorthdaliadau yn ôl yn San Steffan ac yn rhoi pwerau gwario newydd i Lywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig. Roedd y gwledydd datganoledig yn ofni y byddai Llywodraeth y DU yn defnyddio'r pwerau hyn i gyllido sefydliadau'n uniongyrchol a hyrwyddo blaenoriaethau Llywodraeth y DU, na fyddent o bosibl yn gyson â blaenoriaethau'r llywodraethau datganoledig.

Gwrthododd y Senedd a Senedd yr Alban gais Llywodraeth y DU i gytuno ar hyn. Er hynny, pasiwyd y Bil ym mis Rhagfyr 2020, ond cynigiwyd 'fframweithiau cyffredin' fel ffordd o gytuno ar wahaniaethau.  Roedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn anfodlon o hyd ac aethant ati i baratoi achos yn erbyn Llywodraeth y DU i'w gyflwyno i'r Goruchaf Lys yn 2021.

  • Yn eich barn chi, a oedd Llywodraeth y DU yn ymddwyn yn ddoeth i gynnal swyddogaeth marchnad fewnol y DU neu'n peryglu'r setliad datganoli?

  • Gall gymryd sawl blwyddyn i'r ateb i'r cwestiwn hwn ddod i'r amlwg wrth i'r DU addasu i fywyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Yn ddi-os, gwnaeth y ffordd yr ymdriniodd y llywodraeth Geidwadol ar y pryd â'r cwestiwn hwn roi straen anghynaladwy ar gydberthnasau. Gwnaeth ei methiant i gydnabod, o leiaf, bryderon y llywodraethau datganoledig, sbarduno ymgyrchoedd ar gyfer newid cyfansoddiadol cynyddol ym mhob rhan o'r DU.

Crynodeb:

Dyma sesiwn gyntaf y Cynulliad lle na chynhaliwyd adolygiad eang o swyddogaethau, er bod panel arbenigol ar faint a threfniadau etholiadol y Cynulliad a Chomisiwn ar Gyfiawnder. Cyflawni trosglwyddiadau pŵer cynharach oedd llawer o'r newidiadau arwyddocaol a welwyd yn ystod y cyfnod hwn.