9 Crynodeb Adran 1
Llongyfarchiadau ar gyrraedd diwedd yr adran gyntaf hon. Rydych wedi dysgu llawer am natur datganoli yng Nghymru sy'n datblygu, yn enwedig:
Yn ei ddau ddegawd cyntaf o weithredu, aeth datganoli yng Nghymru drwy bum cam fel y nodir gan David Torrance, o ddatganoli gweinyddol yn 1999 i ddatganoli deddfwriaethol â model cadw pwerau yn 2018.
Yn dilyn refferendwm ar ddatganoli i Gymru a fethodd yn 1979, llwyddodd ail bleidlais a ddatblygwyd gan lywodraeth Llafur Newydd.
Bu'r broses hon yn heriol am fod gwleidyddion yng Nghaerdydd a Llundain yn aml yn anghytuno ar y ffordd orau ymlaen.
Nid oedd y setliad datganoli cychwynnol yn arbennig o effeithiol a bu llawer o adolygiadau a nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth i'w wella.
Erbyn 2016, roedd y setliad yn fwy sefydlog ac ailenwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru yn 2020.
Gallwch nawr symud ymlaen i Adran 2 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .