Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.3 Comisiwn Holtham

Bu sawl ymgais i fynd i'r afael â'r broblem hon. Dechreuodd y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru – a ddaeth yn adnabyddus fel Comisiwn Holtham ar ôl ei Gadeirydd, yr economegydd Gerald Holtham – ei waith yn 2008. Cafodd y dasg o werthuso'r fformiwla a ddefnyddiwyd i ddosbarthu arian i Gymru gan Lywodraeth y DU a nodi dulliau cyllido amgen posibl, megis pwerau benthyca a chodi trethi.

Cyhoeddodd Comisiwn Holtham ddau adroddiad. Roedd y cyntaf yn canolbwyntio ar fformiwla Barnett, gan ddweud ei bod yn hen ffasiwn ac yn bodoli er hwylustod gwleidyddol yn unig. Argymhellodd y dylid cyflwyno cyfrifiad yn seiliedig ar anghenion yn lle'r fformiwla. Ailbwysleisiodd yr ail adroddiad yn 2010 y safbwynt hwn, a galwodd am i'r Cynulliad gael pwerau mewn perthynas â threthi, gan gynnwys y gallu i amrywio treth incwm 3c (fel y gwelwyd yn yr Alban) a chreu trethi newydd gyda chaniatâd Llywodraeth y DU. Argymhellodd hefyd y dylid rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ar ddiwedd y flwyddyn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â mwy o bwerau benthyca i ymdopi ag amrywiadau economaidd.

Yn ystod sgwrs â'r Daily Telegraff yn fuan ar ôl Refferendwm Annibyniaeth yr Alban yn 2014, dywedodd y gŵr a ddyfeisiodd y fformiwla, yr Arglwydd Barnett:

The real problem is that now no politician wants to tackle it. The Barnett Formula saves people trouble. It saves prime ministers worrying. That’s the way with politics… Here we are, about to make the wrong decision again.

(Stanford, 2014)