2 Awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân
Awdurdodaeth gyfreithiol yw’r awdurdod a roddir drwy gyfraith i lys roi achosion ar brawf a dyfarnu ar faterion cyfreithiol mewn ardal ddaearyddol benodol.
Mae Cymru yn rhannu ei hawdurdodaeth gyfreithiol â Lloegr. Mae gan Ogledd Iwerddon a’r Alban eu systemau cyfreithiol eu hunain.
Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â deddfwrfa lawn sy’n gweithredu heb awdurdodaeth gyfreithiol gyfatebol.
Yn ystod camau cynnar datganoli, pan nad oedd gan y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol, nid oedd hyn mor bwysig. Fodd bynnag, ers 2011, mae wedi bod yn dringo’r agenda wleidyddol. Yn 2016, ysgrifennodd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Theodore Huckle:
An issue previously considered by some to be technical, abstract and unimportant is now central to the debate on how to create coherent, stable and long lasting constitutional arrangements for Wales…The existence of the Welsh legislature, the fundamental divergence in the law, the inaccessibility of that law and that devolved laws in Wales are made in Welsh and English (both having equal status in law) are reasons enough for the creation of a Welsh legal jurisdiction.
Mae’r rhai sydd o blaid awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn dadlau bod y ffaith nad oes gan Gymru ei hawdurdodaeth ei hun yn ei rhoi dan anfantais bellach, gan na all llunwyr polisïau yng Nghymru gysoni meysydd polisi megis iechyd, addysg a lles cymdeithasol yn effeithiol. Mae’r rhai sydd yn ei herbyn yn dadlau y byddai gwahaniad llawn yn arwain at gymhlethdodau pellach a chostau diangen.