2.1 Comisiwn Thomas
Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru – a gadeirir gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd – gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ym mis Medi 2017 i:
ymdrin â'r busnes heb ei orffen sy'n deillio o Gomisiwn Silk, a wnaeth nifer o argymhellion, yn seiliedig ar resymeg ofalus a thystiolaeth, ar gyfer y maes cyfiawnder – gan gynnwys y llysoedd, y gwasanaeth prawf, carchardai, a chyfiawnder ieuenctid. Bydd hefyd yn rhoi sylw i faterion hanfodol sy'n ymwneud ag awdurdodaeth gyfreithiol a'r heriau sy'n wynebu'r sector gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru.
Dywedodd Mr Jones:
Rydyn ni wedi cael deddfwrfa ar wahân yng Nghymru ers chwe blynedd, ond hyd yma nid oes gennym ein hawdurdodaeth ni ein hunain. Drwy sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, rydyn ni'n cymryd y cam pwysig cyntaf tuag at ddatblygu system gyfiawnder unigryw a fydd yn adlewyrchu anghenion Cymru.
Dilynodd y Comisiwn y patrwm a welwyd droeon o gasglu ac ystyried tystiolaeth cyn gwneud 78 o argymhellion mewn adroddiad hir 556 o dudalennau ddwy flynedd yn ddiweddarach. Casgliad unfrydol yr adroddiad oedd "nad yw'r system bresennol yn diwallu anghenion pobl Cymru” ac y dylid datganoli cyfiawnder yn ddeddfwriaethol i’r Cynulliad, gan gynnwys datganoli’r system cyfiawnder ieuenctid, polisi plismona a gostwng troseddu.
Argymhellodd y canlynol hefyd:
- er mwyn ategu datganoli deddfwriaethol, y dylid datganoli swyddogaethau a oedd yn ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru yn weithredol i Lywodraeth Cymru
- y dylai'r broses o ddatganoli cyfiawnder hefyd fynd law yn llaw â throsglwyddo adnoddau ariannol yn llawn
- y dylai’r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru gael ei nodi'n ffurfiol fel cyfraith Cymru, sy'n wahanol i gyfraith Lloegr
- y dylai’r Cynulliad chwarae rôl fwy rhagweithiol wrth graffu'n briodol ar weithrediad y system gyfiawnder.
Yn y cyfamser, roedd Mark Drakeford wedi’i benodi’n Brif Weinidog Cymru. Cyflwynodd brif ganfyddiadau’r adroddiad i ACau mewn datganiad ar 5 Tachwedd 2019 ac ymrwymodd i wneud cynnydd yn y meysydd lle roedd gan Lywodraeth Cymru y pwerau i wneud hynny, megis datblygu hyfforddiant ac addysg gyfreithiol. Creodd hefyd bwyllgor y Cabinet ar gyfiawnder er mwyn sbarduno cynnydd.
Nid oedd Llywodraeth y DU yn cytuno â chasgliad y Comisiwn y dylid datganoli cyfiawnder yn gyfan gwbl a chreu awdurdodaeth i Gymru. Yn ystod trafodaeth yn Neuadd San Steffan ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru ym mis Ionawr 2020, dywedodd yr Is-ysgrifennydd Seneddol ar Gyfiawnder, Chris Philp AS, nad oedd gan Lywodraeth y DU unrhyw fwriad i lunio ymateb llawn a ffurfiol am fod yr adroddiad wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, nid ganddi hi.
Dywedodd Chris Philp nad oedd Llywodraeth y DU yn cytuno â chasgliad y Comisiwn y dylid datganoli cyfiawnder yn llwyr a chreu awdurdodaeth i Gymru. Wrth wneud hynny, nododd y rhesymau dros y casgliad hwn, gan gynnwys na ellid cyfiawnhau’r gost. Fodd bynnag, dywedodd hefyd y byddai Llywodraeth y DU yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cysoni polisïau cyfiawnder ac ystyried anghenion penodol Cymru.