3 Maint y Senedd
Mae maint y Senedd wedi bod yn bwnc dadleuol ers tro. Yn wir, yn ystod cam adeiladu’r Siambr (siambr drafod y Senedd) cymeradwyodd y Llywydd Dafydd Elis-Thomas ddyluniad â lle i 30 o seddau ychwanegol.
Yn 2004, ar ôl argymell y dylid rhoi pwerau deddfu i’r Cynulliad, galwodd Comisiwn Richard hefyd am i nifer yr ACau gael eu cynyddu o 60 i 80. Gwrthododd Llywodraeth y DU yr argymhelliad hwn.
Yn 2014, galwodd ail adroddiad Comisiwn Silk am i nifer yr aelodau gael eu cynyddu o 60 i 80 hefyd, ochr yn ochr â datganoli nifer o feysydd cyfrifoldeb. Nododd yr adroddiad fod y Cynulliad presennol dan ormod o bwysau. Dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd digon o amser i ddeddfu ar y mater hwn a chyfeiriodd y mater i Senedd nesaf y DU.
Yn 2017, cynhaliodd Yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd adolygiad manwl o’r mater. Argymhellodd ei Phanel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad y dylid cynyddu nifer yr ACau i rhwng 80 a 90 er mwyn rhoi digon o gapasiti iddynt gyflawni eu rolau craffu, cynrychioli ac ymgyrchu. Galwodd y Panel hefyd am ddiwygiadau mawr i’r system etholiadol i annog amrywiaeth a gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed.
Yn 2019, ar ôl derbyn adroddiad yr Athro McAllister, sefydlodd y Llywydd Bwyllgor ar Ddiwygio’r Senedd i ystyried y materion, gyda’r nod o gyflwyno mesurau i’w rhoi ar waith cyn etholiad y Senedd yn 2026.
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad helaeth a galwodd am i bob un o’r pleidiau integreiddio ei argymhelliad i gynyddu nifer yr ASau i rhwng 80 a 90. Yn 2021, cyhoeddodd Llafur a Phlaid Cymru gytundeb eang a fydd yn eu gweld yn cydweithio i wneud cynnydd mewn mwy na 40 o feysydd polisi rhwng 2021 a 2024. Un o’r meysydd hynny yw diwygio etholiadol gyda phwyllgor arall wedi’i sefydlu i ystyried y materion a dwyn ymlaen bil.
Mae’r Ceidwadwyr yn parhau i wrthwynebu ehangu’r Senedd ond mae gan Blaid a Llafur y nifer o Aelodau Seneddol sydd eu hangen i sicrhau newid felly mae diwygio’n edrych yn debygol.