3.1 Dadleuon yn erbyn mwy o ASau
Mae’r dadleuon yn erbyn mwy o ASau yn canolbwyntio ar amhoblogrwydd gwario swm sylweddol fwy o arian cyhoeddus ar wleidyddion. Gan ymateb i alwadau am fwy o ACau yn 2013, dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig:
Byddai creu swyddi i wleidyddion yn cael ei gwestiynu, a hynny'n gywir, gan y cyhoedd yn ystod amser sy'n parhau i fod yn heriol i economi Cymru. Beth sydd ei angen yw mwy o graffu ar ddeddfwriaeth, gwell cysylltiad gyda'r cyhoedd a sesiynau Cynulliad sy'n hirach ac yn ymwneud mwy a materion cyfoes.
Mae rhai sy'n gwrthwynebu cynnydd yn nifer yr ASau yn dadlau y byddai aildrefnu'r amserlen seneddol yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer craffu. Dyma farn y Ceidwadwyr Cymreig.