3.2 Dadleuon o blaid mwy o ASau
Gwrthodwyd y ddadl hon gan yr Athro Laura McAllister, a gadeiriodd banel arbenigol ar ddiwygio'r Senedd. Mewn erthygl yn y Western Mail, dywedodd:
Despite actively seeking it out, our expert panel heard no compelling argument, backed up with real, hard evidence or suggestions for further innovations in working, as to why 60 members is sufficient to properly deliver for the people of Wales - and nor have I since.
Mae'r rhai sydd o blaid mwy o ASau yn honni na fyddai aildrefnu'r amserlen yn datrys y broblem o ran craffu. Maent yn aml yn nodi'r broblem ehangach sy'n gysylltiedig â llwyth gwaith ASau ac yn awgrymu bod gofyn i ASau fod yn aelodau o lawer o bwyllgorau pwnc, cymryd rhan yn y cyfarfod llawn a chefnogi etholwyr yn afrealistig.
Mae Plaid Cymru a Llafur Cymru o blaid mwy o ASau yn gyffredinol, yn ogystal â'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, sef grŵp ymgyrchu sy'n aml yn cael ei ddyfynnu ar y mater hwn.