Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Cymdeithas Sifil

Cydnabyddir yn gyffredinol mai cymdeithas sifil yw'r sefydliadau hynny sydd ar wahân i'r llywodraeth a busnesau ond sy'n chwarae rôl bwysig o ran creu syniadau a thrafodaeth am fywyd cyhoeddus. Maent yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol, undebau, cyrff masnach a melinau trafod.

Ymhlith rhai o sefydliadau mwyaf blaenllaw cymdeithas sifil yng Nghymru mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sy'n cynrychioli ac yn cefnogi sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru, a'r Sefydliad Materion Cymreig, melin drafod sydd â'r nod o greu Cymru well.

Mae'r sefydliadau hyn yn bwysig iawn yn y broses o lunio polisïau. Maent yn cyflwyno gwybodaeth, syniadau a safbwyntiau lluosog i ddeddfwyr. Fodd bynnag, gan fod llawer o'r cyrff hyn yn cael cyllid cyhoeddus, gellir dadlau bod hyn yn cyfyngu'n benodol ar eu gallu i feirniadu'r llywodraeth.