Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.3 Cymariaethau â'r Alban a Gogledd Iwerddon

Yn 1999, sicrhawyd rhywfaint o ddatganoli yn nhair o bedair gwlad y DU. Yn naturiol, mae hyn yn arwain at gymariaethau rhwng y tair gwlad – er bod cymariaethau rhwng Cymru a'r Alban yn llawer mwy cyffredin o ystyried yr hanes diweddar o wrthdaro yng Ngogledd Iwerddon.

Fodd bynnag, nid yw cymharu Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon bob amser yn ddefnyddiol. Mae llawer o wahaniaethau rhwng y tair gwlad sydd wedi arwain at sefyllfaoedd gwleidyddol gwahanol.

Tabl 1 Cymariaethau rhwng y gwledydd cartref
  Yr Alban Cymru Gogledd Iwerddon
Hanes Mae'r Alban yn heddychlon ac yn gymharol ffyniannus, ond bu cryn drafod ynghylch ei sefyllfa gyfansoddiadol dros y 50 mlynedd diwethaf. Er gwaethaf dirywiad economaidd, mae Cymru wedi bod yn wlad heddychlon iawn ers degawdau. Prin fu'r trafodaethau am newid cyfansoddiadol radical. Gwelwyd 30 mlynedd o wrthdaro treisgar yng Ngogledd Iwerddon (“Yr Helyntion”). Daeth y rhan fwyaf o'r trais hwn i ben pan lofnodwyd Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 1998. Roedd y sefydliadau gwleidyddol datganoledig wrth wraidd yr heddwch hwn.
Ffiniau Daearyddol Mae Gororau'r Alban yn ardal prin ei phoblogaeth, a nifer bach o bobl sy'n cymudo rhwng yr Alban a Lloegr ar gyfer gwaith a gwasanaethau. Mae'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn ardal boblog iawn. Mae llawer o bobl yn cymudo rhwng Cymru a Lloegr ar gyfer gwaith a gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw Gogledd Iwerddon yn ffinio â gweddill tir mawr y DU, dim ond â Gweriniaeth Iwerddon. Mae'r rhai sy'n byw ar y ffin yn aml yn cymuno ar gyfer gwaith a gwasanaethau cyhoeddus.
Yr Economi Mae gan yr Alban nifer o ddiwydiannau gwerth uchel, gan gynnwys olew Môr y Gogledd, chwisgi, a sector gwasanaethau ariannol sylweddol yng Nghaeredin. Mae Cymru yn genedl ôl-ddiwydiannol sydd wedi ei chael hi'n anodd creu swyddi medrus newydd yn lle'r rhai a gollwyd yn y diwydiant gweithgynhyrchu a chloddio dros y ganrif ddiwethaf. Mae gan Gaerdydd sector diwydiannau creadigol llewyrchus. Fel Cymru, mae Gogledd Iwerddon wedi ei chael hi'n anodd creu swyddi newydd yn lle'r rhai a gollwyd mewn diwydiant trwm. Yn sgil yr Helyntion, prin fu'r buddsoddiad economaidd yng Ngogledd Iwerddon yn hanesyddol, ond mae'n dod yn ganolbwynt cynyddol ar gyfer technoleg ariannol a seiberddiogelwch.
Gwleidyddiaeth Llafur fu'r grym dominyddol yng ngwleidyddiaeth yr Alban drwy gydol yr 20fed ganrif, ond enillodd plaid genedlaetholgar yr Alban, yr SNP, etholiad Senedd yr Alban yn 2007, a'r SNP fu'r blaid fwyaf yn Holyrood ers hynny.. Llafur yw'r grym dominyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru bresenoldeb sefydledig ond nid yw'r naill na'r llall ohonynt wedi dod yn agos i ennill etholiadau'r Senedd. Pleidiau unoliaethol a chenedlaetholgar sy'n dominyddu gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon. Mae llawer o'r boblogaeth yn dilyn y naill neu'r llall o'r ideolegau hyn.
Sefydliadau Cyhoeddus Bu gan yr Alban bob amser ei heglwys a'i systemau addysg a chyfreithiol ei hun. Mae llawer o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn rhan o system 'Cymru a Lloegr' ehangach. Er enghraifft, mae'r un cymwysterau'n cael eu cynnig yng Nghymru a Lloegr. Mae gan Ogledd Iwerddon ei systemau cyfreithiol ac addysgol ei hun. Mae'r eglwysi (Catholig a Phrotestannaidd) wedi'u trefnu ar sail ynys-gyfan am fod trefniadaeth esgobaethau'n dyddio'n ôl i gyfnod cyn ffurfio Gogledd Iwerddon. Yn yr un modd, mae rhai cyrff proffesiynol yn gweithredu ar sail ynys-gyfan.
  • Yn eich barn chi, pam y mae'r fath wrthwynebiad sefydledig i ddatganoli yng Nghymru nad yw'n bodoli yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon?

  • Er bob pob un o'r tair gwlad wedi llwyddo i sicrhau rhywfaint o ddatganoli ar yr un pryd, roedd y ffactorau hanesyddol a arweiniodd at hynny yn wahanol iawn ym mhob achos. Mae cefnogaeth i ddatganoli bob amser wedi bod yn arafach yng Nghymru o gymharu â'r ddwy wlad arall. Oherwydd y diffygion sylweddol yn y setliad, treuliodd Gweinidogion Cymru flynyddoedd cyntaf datganoli yn trafod materion annelwig nad oeddent yn teimlo'n berthnasol i'r mwyafrif o bobl. O ganlyniad, gwelwyd safbwyntiau gwleidyddol gwrth-ddatganoli yn datblygu.

Darllen pellach - ‘The State of the Union’

Caiff y cysylltiadau cymhleth rhwng pob rhan o Ynysoedd Prydain eu hystyried yn y fideo hwn gan Y Brifysgol Agored, ‘The State of the Union’, sy'n dangos sgwrs rhwng yr Athro Linda Colley a'r Athro Richard Wyn Jones. Ceir dolenni yn yr adran Darllen Pellach.