Geirfa
- AS
- Aelod o'r Senedd. AC neu Aelod Cynulliad yn flaenorol.
- Bil y Farchnad Fewnol
- il dadleuol yn ymwneud â Brexit a basiwyd gan Senedd y DU yn 2020. Nod y Bil oedd safoni rheoliadau ac atgyfnerthu marchnad fewnol y DU, h.y. y ffordd y caiff nwyddau eu symud rhwng pedair gwlad y DU. Gwrthodwyd y Bil gan Senedd Cymru a Senedd yr Alban, a chafodd ei feirniadu’n hallt gan sawl ffigwr a oedd o blaid datganoli.
- Bil Cymru 2014
- Y bil a wnaeth llawer o Gytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn gyfraith. Yn benodol, yn dilyn pasio’r bil, gallai’r Cynulliad godi arian drwy drethi am y tro cyntaf erioed.
- Bil Cymru 2016
- Bil dadleuol a gafodd ei basio yn y pen draw i ffurfio Deddf Cymru 2017. Nododd hyn newid i fodel datganoli cadw pwerau, yn ogystal â datganoli etholiadau a rhai pwerau dros ynni.
- Clymblaid enfys
- Llywodraeth a ffurfiwyd o ASau o amrywiaeth o bleidiau. Bu sôn am greu clymblaid enfys rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn etholiad 2007, ond ni ffurfiwyd clymblaid o'r fath.
- Comisiwn Holtham
- Y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru, a gadeirir gan yr economegydd Gerald Goltham ac a gomisiynwyd yn 2008. Honnodd y Comisiwn fod fformiwla Barnett yn hen ffasiwn ac y dylid datganoli rhai meysydd trethi.
- Comisiwn Richard
- Cafodd ei arwain gan yr Arglwydd Richard a’i gomisiynu gan Rhodri Morgan yn 2002. Argymhellodd adroddiad y comisiwn newidiadau i’r system etholiadol, strwythur y Cynulliad a phwerau deddfwyr yng Nghaerdydd.
- Comisiwn Silk
- Cafodd ei arwain gan Paul Silk a’i gomisiynu gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn dilyn etholiad cyffredinol 2010. Canolbwyntiodd yr adroddiad cyntaf ar gyllid, a chanolbwyntiodd yr ail ar y Cynulliad. Galwodd y ddau adroddiad am fwy o ddatganoli i Gymru.
- Comisiwn Thomas
- Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a gadeirir gan yr Arglwydd Thomas ac a gomisiynwyd gan Carwyn Jones yn 2017. Nododd y Comisiwn fod y system gyfreithiol bresennol yn siomi pobl yng Nghymru, gan argymell y dylid datganoli cyfiawnder yn ddeddfwriaethol i’r Cynulliad.
- Cwango
- Acronym ar gyfer ‘corff anllywodraethol lled-ymreolus’. Ymhlith yr enghreifftiau mae melin drafod Canolfan Genedlaethol Polisi Cyhoeddus Cymru a Llenyddiaeth Cymru.
- Cymru'n Un
- Deilliodd llywodraeth Cymru’n Un o glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Bu mewn grym rhwng 2007 a 2011, gyda Phrif Weinidog Llafur Cymru a Dirprwy Brif Weinidog Plaid Cymru.
- Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi
- Cyhoeddiad polisi yn 2015 gan lywodraeth glymblaid y DU, gan arweiniad David Cameron. Nod y mwyafrif o’r argymhellion oedd atgyfnerthu’r setliad datganoli, ac roedd llawer ohonynt yn deillio’n uniongyrchol o ail adroddiad Comisiwn Silk.
- Deddfwrfa
- Cangen etholedig llywodraeth sy’n craffu ar y weithrediaeth ac yn pleidleisio ar gyfreithiau. Mae Senedd Cymru, Tŷ’r Cyffredin a Senedd UDA yn enghreifftiau o ddeddfwrfeydd.
- Deddfwriaeth sylfaenol
- Deddf a basiwyd gan senedd. Mae Deddf a basiwyd gan Senedd Cymru yn enghraifft o ddeddfwriaeth sylfaenol, felly hefyd Ddeddf Marchnad Fewnol y DU. Mae deddfwriaeth sylfaenol yn cynnwys adran sy’n pennu pa newidiadau y gellir eu gwneud i’r ddeddf gan is-ddeddfwriaeth.
- Deddf Llywodraeth Cymru (2006)
- Deddf a wahanodd y ddeddfwrfa a’r weithrediaeth yng Nghymru ac a alluogodd y Cynulliad i basio deddfwriaeth sylfaenol mewn 20 o feysydd.
- Dull D’Hondt
- System ar gyfer cyfrifo nifer y seddau a enillwyd mewn etholiad. Fe’i gelwir hefyd yn ‘gyfartaledd uchaf’.
- Fformiwla Barnett
- Y fformiwla sy’n pennu’r taliadau a wneir gan Lywodraeth y DU i lywodraethau Cymru a’r Alban. Mae’r fformiwla yn ystyried faint o arian sy’n cael ei wario yn Lloegr, graddau datganoli mewn meysydd penodol, e.e. iechyd ac addysg, a phoblogaethau perthynol y gwledydd.
- Gorchymynion Cymhwysedd Deddfwriaethol
- Darn o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol a fyddai’n trosglwyddo pŵer deddfwriaethol o Senedd y DU i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd yn rhaid i Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad, dau Dŷ Senedd y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
- Y Goruchaf Lys
- Y llys apêl terfynol yn y DU ar gyfer achosion sifil ac achosion troseddol o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn gwrando achosion o bwys cyfansoddiadol, gan gynnwys anghydfodau rhwng llywodraethau.
- Gweithrediaeth
- Cangen o lywodraeth sy’n pennu’r agenda polisi, gyda’r nod o sicrhau y caiff polisïau eu pasio gan y ddeddfwrfa. Mae Llywodraeth bresennol Cymru yn enghraifft o gorff gweithredol – cafodd hyn ei gwneud yn gyfraith gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
- Gwrth-ddatganoli
- Hefyd bod yn elyniaethus i ddatganoli Safbwynt gwleidyddol sy'n gwrthwynebu bodolaeth pwerau'r gweinyddiaethau datganoledig ac estyniad i'r pwerau hynny yn gyffredinol.
- Is-ddeddfwriaeth
- Darn o ddeddfwriaeth sy’n gwneud newidiadau i ddeddf. I ddechrau, dim ond is-ddeddfwriaeth y gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei phasio.
- Prif Weinidog Cymru
- Arweinydd Llywodraeth Cymru. Yn gyfrifol am bolisïau, penodi gweinidogion, cadeirio Cabinet Cymru, a chynrychioli Cymru gartref a thramor. Yn atebol i'r Senedd.
- Senedd Cymru
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn flaenorol. Caiff y senedd 60 o aelodau hon ei hethol bob pum mlynedd ac mae’n gyfrifol am ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
- Y Trydydd Sector
- Y sector gwirfoddol a nid-er-elw, sy’n cynnwys elusennau a sefydliadau megis Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.