Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Hunaniaeth Gymreig

Mae cysylltiad agos rhwng gwleidyddiaeth a chwestiynau am hunaniaeth genedlaethol. Casglodd Cyfrifiad 2011 ddata ar hunaniaeth genedlaethol am y tro cyntaf, a rhoddwyd Cymreig fel opsiwn. Arweiniodd hyn at greu ffynhonnell gyfoethog o ddata. Dywedodd 66% o'r 3.1m o bobl a oedd yn byw yng Nghymru ar y pryd eu bod yn Gymreig. O blith y rhain, dywedodd tua 20% eu bod yn Brydeinig a Chymreig. Dywedodd ychydig yn llai na 17% eu bod yn Brydeinig.

Fel y soniodd yr Athro Awan-Scully yn y cyfweliad yn Adran 1, mae cysylltiad rhwng hunaniaeth a bwriad pleidleisio, gydag unigolion sy'n teimlo eu bod yn Gymreig yn unig neu'n bennaf yn dueddol o gefnogi Plaid Cymru, a'r rhai sy'n teimlo eu bod yn Brydeinig yn bennaf yn dueddol o gefnogi'r Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Llafur Cymru wedi bod yn llwyddiannus yn cydbwyso'r ddau drwy gymryd safbwynt sy'n apelio at y rhai sydd â hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig sy'n gydnaws â'i gilydd. Yn wir, disgrifiodd Prif Weinidog Llafur Cymru rhwng 2000 a 2009, Rhodri Morgan, y dull hwn fel ‘dŵr coch clir’ – gan ddefnyddio dull Cymreig fel rhan o'r Deyrnas Unedig.

Nododd yr Athro Awan-Scully hefyd fod lefelau uchel o fewnfudo i Gymru, yn enwedig o Loegr, wedi cael effaith ar hunaniaeth Gymreig. Mae'n nodi bod rhai yn derbyn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, tra bod llawer o bobl eraill yn parhau i aros ar wahân, er enghraifft, drwy beidio ag ymgysylltu â datblygiadau gwleidyddol ym Mae Caerdydd.

Darllen pellach – ‘Who Speaks for Wales?’

Yn 2003, cafodd casgliad o waith ysgrifenedig ar thema hunaniaeth Cymru gan y damcaniaethwr diwylliannol, Raymond Williams, ei gyhoeddi ar ôl ei farwolaeth. Yn y llyfr, mae Williams yn ystyried beth sy'n gwneud cenedl a'r rôl y mae diwylliant yn ei chwarae o ran ei diffinio. Gofynnodd "Who speaks for Wales?", a dadleuodd y dylem wrando ar safbwyntiau lluosog.

Trafododd yr actor a'r actifydd, Michael Sheen, thema ‘Who speaks for Wales?’ yn narlith goffa Raymond Williams yn 2017, a gefnogwyd gan Y Brifysgol Agored.

Gan fanylu ar ei brofiadau o gael ei aralleiddio oherwydd ei Gymreictod, mae Sheen yn myfyrio ar bŵer Lloegr dros Gymru, gan gyfeirio at y diffyg cysylltiad rhwng pobl Cymru a sefydliadau gwleidyddol y tu allan i Gymru. Mae'r actor yn annog gwleidyddion i 'ddysgu sut i wrando' ac ymgorffori gwleidyddiaeth ym mywydau pobl Cymru, gan dynnu sylw at ddiffygion systemig o ran y cydberthnasau ariannol a gwleidyddol rhwng Cymru a Lloegr.

Thema arall a drafodir gan Sheen yw diffyg cyfryngau yng Nghymru, gan nodi dirywiad y cyfryngau lleol yn ei dref enedigol, Port Talbot, dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Yn ôl Sheen, mae'r bwlch hwn o ran newyddion yn cyfrannu ymhellach at ymddieithriad a dadrithiad cymunedau ledled Cymru, ac mae hyn yn arwain at ddiffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth ar garreg ein drws wrth i bobl Cymru weld mwy a mwy o newyddion a gynhyrchwyd yn Llundain i'r rhai sy'n byw yn Lloegr.

Mae Sheen yn beirniadu diffyg camau gweithredu gan Lafur Cymru ac ymagwedd Brydeinig y Ceidwadwyr, yn ogystal â methiant Plaid Cymru i sicrhau cydbwysedd rhwng cenedlaetholdeb dinesig sy'n aml yn aneffeithiol a chenedlaetholdeb diwylliannol sy'n rhy frwdfrydig. Mae thema hunaniaeth genedlaethol yn gryf drwy ddarlith Sheen wrth iddo gondemnio peryglon y cenedlaetholdeb diwylliannol hwn, yn enwedig yng nghyd-destun Prydain. Gan ailadrodd cwestiwn Raymond Williams eto, "Who speaks for Wales?", mae Sheen yn annog lleisiau Cymru i uno i greu ein Cymru ni.

Gallwch ddod o hyd i ddolen i'r ddarlith lawn yn yr adran Darllen Pellach.