4 Y Gymraeg
Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd gweithredol swyddogol Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae tua 600,000 o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg, ac mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i gynyddu'r nifer hwnnw i filiwn erbyn 2050.
Mae'r Gymraeg wedi bod yn rhan annatod o wleidyddiaeth Cymru. Mae'n aml yn sail i hunaniaeth genedlaethol ac, fel y cyfryw, mae cysylltiad agos wedi bod rhyngddi â Phlaid Cymru ers tro, er bod pob un o bedwar Prif Weinidog Llafur Cymru wedi bod yn siaradwyr Cymraeg.
Mae datganoli wedi cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg, gan greu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn trafodaethau gwleidyddol ac wrth ddrafftio cyfraith. Yn ddi-os, mae mentrau i gefnogi'r iaith, megis Agenda 2050 a Mesur y Gymraeg 2011, wedi bod yn fuddiol iddi.