6 Pleidleisio yn 16 oed
Fel rhan o ymgais i ennyn diddordeb mwy o bobl ifanc mewn gwleidyddiaeth, ehangwyd yr etholfraint yn 2019. Rhoddodd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd i bobl ifanc 16 ac 17 oed – er bod yn rhaid iddynt fod yn 18 oed i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, etholiadau ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu ac etholiadau senedd y DU. Credir y bydd y newid yn rhoi'r bleidlais i hyd at 70,000 o bobl ifanc yng Nghymru.
Yn eich barn chi, a fydd rhoi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn cynyddu'r ganran a bleidleisiodd mewn etholiadau yn y dyfodol?
Mae nifer y bobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n gymwys i bleidleisio mewn etholiad yn gymharol fach – 70,000 neu 3% o etholwyr Cymru. Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu rhoi'r bleidlais i bobl ifanc yn aml yn honni nad oes gan y grŵp hwn ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac y byddai hyn yn gostwng y ganran a bleidleisiodd hyd yn oed yn fwy. Yr wrthddadl yw y gallai rhoi'r bleidlais i bobl iau arwain at ddiddordeb gydol oes mewn gwleidyddiaeth. Mae hyn yn deillio o ddata o Awstria, lle y gostyngwyd yr oedran pleidleisio yn 2007. Mae hefyd ychydig o dystiolaeth sy'n awgrymu bod canran uwch o bobl ifanc 16 ac 17 oed yn pleidleisio na phobl rhwng 18 a 24 oed, a'u bod yn edrych ar amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau i lywio eu dewisiadau.