Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Crynodeb diwedd y cwrs

Cafodd ddatganoli ddechrau heriol yng Nghymru. Cafodd y syniad ei wrthod gan yr etholaeth yn 1979 ac yna prin ei gymeradwyo yn 1999.

Dyfeisiwyd y trefniadau cychwynnol yn gyflym a bu'n aneffeithiol yn ymarferol. Roedd yn anodd i ACau sicrhau unrhyw newid go iawn ac roedd diffyg craffu gwirioneddol.

Roedd diffyg brwdfrydedd nifer o wleidyddion a’r etholaeth wedi llesteirio blynyddoedd cynnar y Senedd, ac mae wedi profi'n anodd iawn gwrthdroi sinigiaeth a sbarduno diddordeb ac ymgysylltiad.

Mae pryderon parhaus wedi bod ynghylch nifer yr ASau, diffyg awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yng Nghymru a pherthnasau rhyng-sefydliadol dan straen.

Cafodd gwaith arferol y llywodraeth ei gyfaddawdu gan batrwm adolygu, adrodd a diwygio rhwng 2004 a 2016.

Wedi dweud hynny, mae'r Senedd bellach yn bodoli ers dros 20 mlynedd, ac mae ganddi lawer i ymfalchïo ynddo:

  • Yn 2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i ethol 50% o gynrychiolwyr benywaidd a 50% o gynrychiolwyr gwrywaidd.
  • Yn 2007, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno presgripsiynau am ddim i bawb. Bwriad hyn oedd lleihau anghydraddoldebau iechyd.
  • Yn 2011, cyflwynwyd tâl o 5c am fagiau siopa. Arweiniodd hyn at ostyngiad amcangyfrifedig o 70% yn y defnydd o fagiau siopa untro rhwng 2011 a 2014.
  • Yn 2013, cyflwynodd y Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) system 'cydsyniad tybiedig', gan olygu bod yn rhaid i unigolyn optio allan o roi organau yn hytrach nag optio i mewn. Nod y Ddeddf hon yw cynyddu nifer yr organau a meinweoedd sydd ar gael i'w trawsblannu.

Ac er bod newid yn anodd, gwnaed cynnydd cyfansoddiadol. Rhoddwyd pwerau deddfu i'r Cynulliad mewn sawl maes o fywyd Cymreig. Cafodd hefyd bwerau codi trethi. I adlewyrchu ei thwf mewn statws, cafodd enw'r Cynulliad ei newid i Senedd neu Welsh Parliament.

Ond beth sy'n digwydd nesaf? Erbyn dechrau'r 2020au, mae'r DU ar ddibyn cyfansoddiadol gyda chysylltiadau rhwng y cenhedloedd yn cael eu profi'n aruthrol.

Mae Gogledd Iwerddon wedi cael eu dal yng nghanol helynt Brexit ac mae’r Alban yn edrych yn barod am ail refferendwm annibyniaeth. Erbyn hydref 2021, roedd Llafur wedi troi at Blaid Cymru am gefnogaeth mewn trefniant ar gyfer llywodraeth a ddisgrifiwyd fel ‘y Cytundeb Cydweithio’. Roedd confensiwn cyfansoddiadol mawr wedi'i greu i ystyried yr holl opsiynau ar gyfer dyfodol Cymru.

Os caiff y DU ei hail-lunio, fel sy’n ymddangos yn fwyfwy tebygol, mae’n ddigon posibl y bydd sefyllfa Cymru yn newid eto. Wedi’r cyfan, proses yn hytrach na digwyddiad yw datganoli.