Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Dadleuon yn erbyn mwy o ASau

Mae’r dadleuon yn erbyn mwy o ASau yn canolbwyntio ar amhoblogrwydd gwario swm sylweddol fwy o arian cyhoeddus ar wleidyddion. Gan ymateb i alwadau am fwy o ACau yn 2013, dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig:

Byddai creu swyddi i wleidyddion yn cael ei gwestiynu, a hynny'n gywir, gan y cyhoedd yn ystod amser sy'n parhau i fod yn heriol i economi Cymru. Beth sydd ei angen yw mwy o graffu ar ddeddfwriaeth, gwell cysylltiad gyda'r cyhoedd a sesiynau Cynulliad sy'n hirach ac yn ymwneud mwy a materion cyfoes.

(BBC Cymru Fyw, 2013)

Mae rhai sy'n gwrthwynebu cynnydd yn nifer yr ASau yn dadlau y byddai aildrefnu'r amserlen seneddol yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer craffu. Dyma farn y Ceidwadwyr Cymreig a llawer o'r pleidiau gwrth-ddatganoli llai o faint megis Diddymu'r Cynulliad.