Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Crynodeb diwedd y cwrs

Ar adeg ysgrifennu'r cwrs hwn ar ddechrau 2021, roedd Cymru – fel gweddill y byd – yn delio ag effeithiau Brexit a phandemig COVID-19.

Roedd gwleidyddion yn paratoi ar gyfer Etholiadau Senedd 2021. Er nad oedd yr un ohonynt yn farn y mwyafrif, roedd dwy drafodaeth fywiog yn mynd rhagddynt.

Diddymu'r Cynulliad

Ar ôl i aelodau o grŵp UKIP a etholwyd yn 2016 gefnu ar y grŵp hwnnw, enillodd Plaid Diddymu'r Cynulliad ddau Aelod o'r Senedd. Ym mis Ionawr 2021, nododd gwefan y blaid bod ganddi un polisi, sef Diddymu'r Cynulliad. Ei rhesymeg dros y safbwynt hwn oedd bod datganoli wedi methu â chyflawni ar gyfer pobl Cymru, a bod safonau addysg mewn ysgolion yng Nghymru wedi gostwng ymhell islaw'r safonau mewn rhannau eraill o'r DU. Nododd mai barn y Cynulliad oedd bod angen MWY o bwerau i fynd i'r afael â hyn. Ond barn y blaid oedd na ddylid byth cefnogi methiant (Abolish the Assembly, 2021).

Ar ddechrau 2021, mynegodd nifer o ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig safbwyntiau gwrth-ddatganoli cryf, gan ymrwymo i wrthdroi'r setliad datganoli, pe baent yn cael eu hethol.

Annibyniaeth i Gymru

Er ei bod yn safbwynt gwleidyddol unigryw, gwelwyd cynnydd sylweddol mewn cefnogaeth i annibyniaeth yn ystod 2020, gan godi i 33% erbyn mis Tachwedd y flwyddyn honno. Roedd hyn i'w briodoli i'r ffordd y gwnaeth Llywodraeth y DU ymdrin â Brexit a phandemig COVID-19, ynghyd ag ymdeimlad y byddai Llywodraeth annibynnol yng Nghymru yn gallu gwneud penderfyniadau er budd gorau Cymru. Mae'r posibilrwydd gwirioneddol o annibyniaeth yn yr Alban wedi sbarduno pryderon y gallai Cymru gael ei gadael ar ôl.

Mae Plaid Cymru wedi galw am annibyniaeth i Gymru ers tro – er bod rhai arweinwyr wedi bod yn fwy lleisiol o ran ei hyrwyddo nag eraill. Yn 2020, cefnogodd Plaid Werdd Cymru ymgyrch o blaid annibyniaeth hefyd.

  

Nid oes consensws mwyafrif clir dros y naill safbwynt na'r llall. Ymddengys fod y mwyafrif o bleidleiswyr Cymru yn fodlon ar y sefyllfa bresennol, gan ddewis cefnogi pleidiau unoliaethol sydd o blaid datganoli. Fodd bynnag, mae'r ddau safbwynt hyn bellach yn rhan o drafodaeth wleidyddol brif ffrwd. Mae'n debygol y caiff ymgeiswyr sydd o blaid annibyniaeth ac ymgeiswyr sydd yn erbyn datganoli eu hethol i'r chweched Senedd.

Mae'n debygol y bydd trafodaethau ar sut y dylid llywodraethu Cymru yn parhau am flynyddoedd i ddod. A beth am opsiwn y ffordd ganol, gan gynnal ac, o bosibl, wella'r setliad datganoli?

Yn ddi-os, mae datganoli yng Nghymru yn waith sy'n mynd rhagddo, ac nid gwaith hawdd mohono. Mae newid gwleidyddol yn anodd ar y gorau, ond mae gwleidyddion yng Nghaerdydd a San Steffan yn ceisio llywio agendâu eu pleidiau eu hunain i atgyfnerthu setliad datganoli a luniwyd ar sylfeini ansefydlog.

Fel yr ydych wedi ei weld, cafodd blynyddoedd cynnar y Senedd eu llesteirio gan ddiffyg brwdfrydedd ymhlith llawer o wleidyddion ac etholwyr, a bu'n anodd iawn gwrth-droi'r sinigiaeth honno ac ennyn diddordeb a brwdfrydedd. Cafodd gwaith arferol y llywodraeth ei gyfaddawdu gan batrwm adolygu, adrodd a diwygio rhwng 2004 a 2016.

Wedi dweud hynny, mae'r Senedd bellach yn bodoli ers dros 20 mlynedd, ac mae ganddi lawer i ymfalchïo ynddo:

  • Yn 2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i ethol 50% o gynrychiolwyr benywaidd a 50% o gynrychiolwyr gwrywaidd.
  • Yn 2007, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno presgripsiynau am ddim i bawb. Bwriad hyn oedd lleihau anghydraddoldebau iechyd.
  • Yn 2011, cyflwynwyd tâl o 5c am fagiau siopa. Arweiniodd hyn at ostyngiad amcangyfrifedig o 70% yn y defnydd o fagiau siopa untro rhwng 2011 a 2014.
  • Yn 2013, cyflwynodd y Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) system 'cydsyniad tybiedig', gan olygu bod yn rhaid i unigolyn optio allan o roi organau yn hytrach nag optio i mewn. Nod y Ddeddf hon yw cynyddu nifer yr organau a meinweoedd sydd ar gael i'w trawsblannu.

Ar ddechrau'r 2020au, mae'r DU ar ddibyn cyfansoddiadol, gyda chydberthnasau rhwng y gwledydd wedi'u trethu'n fawr. Mae Gogledd Iwerddon wedi dioddef sgil effeithiau Brexit ac mae’n debygol y bydd ail refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban. Os caiff y DU ei hail-lunio, fel sy’n ymddangos yn fwyfwy tebygol, mae’n ddigon posibl y bydd sefyllfa Cymru yn newid eto. Wedi’r cyfan, proses yn hytrach na digwyddiad yw datganoli.