Cyflwyniad a chanllawiau
Cyflwyniad
Mae’r cwrs hwn, Egwyddorion ac arferion addysg heddwch, yn gydweithrediad rhwng y Brifysgol Agored a’r Crynwyr ym Mhrydain. Mae’r cwrs yn cyflwyno egwyddorion craidd addysg heddwch i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Yn ogystal â syniadau ymarferol ar gyfer ymarfer bob dydd yn yr ystafell ddosbarth, mae’n cysylltu â deunyddiau ar gyfer astudio pellach a chynllunio’r cwricwlwm.
Mae’r cwrs wedi ei rannu’n chwe sesiwn. Dylai gymryd tua dwy awr i gwblhau pob sesiwn.
Sesiwn 1: Beth yw heddwch?
Sesiwn 2: Heddwch ynof fi fy hun
Sesiwn 3: Heddwch rhyngom
Sesiwn 4: Heddwch yn ein plith
Sesiwn 5: Heddwch yn y byd
Sesiwn 6: Eich taith fel addysgwr heddwch
Deilliannau dysgu
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- disgrifio cysyniadau sy’n sail i addysg heddwch
- deall dulliau addysgeg o feithrin heddwch yn yr ystafell ddosbarth
- bod yn ymwybodol o’r cymwyseddau y gellir eu datblygu drwy arferion addysg heddychlon gyda phlant a phobl ifanc
- dechrau datblygu ymarfer hunanfyfyriol fel addysgwr heddwch myfyriol.