Sesiwn 5: Heddwch yn y byd
Cyflwyniad
Mae gobaith yn gysyniad sy’n gallu helpu pobl i ymwneud yn gadarnhaol ac yn adeiladol â chymhlethdodau’r byd ehangach. Mae’r sesiwn hon yn dechrau o’r cysyniad o obaith wrth archwilio sut gall plant a phobl ifanc ddysgu sut i wneud safiad di-drais wrth reoli’r gwrthdaro sy’n deillio o anghydraddoldebau ac anghyfiawnderau.
Erbyn diwedd y sesiwn hon, fe ddylech chi allu:
- deall rôl hanfodol gobaith mewn addysg heddwch
- deall sut gellid cynorthwyo pobl ifanc i fod yn weithredwyr di-drais
- ystyried rôl yr oedolyn fel addysgwr heddwch
- gwybod ble gallech chi fynd i gael adnoddau a chymorth i ddatblygu ymgysylltiad pobl ifanc â heddwch yn y byd ehangach.
Gwyliwch y fideo hwn lle mae Bethan yn cyflwyno Sesiwn 5.
