Sesiwn 3: Heddwch rhyngom ni
Cyflwyniad
Yn y sesiwn hon byddwch yn cael cyflwyniad i'r ffyrdd y gellir defnyddio sesiynau cylch i archwilio cysylltiadau cadarnhaol rhwng cyfoedion - a elwir yn 'heddwch rhyngom' (‘peace between us’) yn Peace at the Heart. Byddwch yn ystyried egwyddorion defnyddio sesiynau cylch fel rhan o feithrin heddwch addysgol cyn edrych yn fanylach ar agweddau tuag at wrthdaro.
Erbyn diwedd y sesiwn, fe ddylech chi allu:
- deall yr egwyddorion y tu ôl i addysgu mewn cylch
- mynegi'r cysyniad o empathi a'i ddefnydd wrth gynorthwyo perthynas gadarnhaol ag eraill a datrys gwrthdaro
- dechrau datblygu strategaethau ar gyfer meithrin heddwch drwy ddatrys gwrthdaro’n deg.
Cyn i chi ddechrau, gwyliwch y fideo hwn lle mae Bethan yn cyflwyno'r sesiwn.
