Sesiwn 2: Heddwch ynof fi fy hun
Cyflwyniad
Mae'r sesiwn hon yn dilyn y model o heddwch y gwnaethoch ddarllen amdano yn Sesiwn 1, gan gyflwyno rhai egwyddorion 'heddwch ynof fi fy hun' sy'n meithrin llesiant a datblygiad unigol. Dyma'r cyntaf o'r pedair haen o heddwch a nodwyd yn Peace at the Heart y gwnaethoch ddarllen amdanynt yn y sesiwn ddiwethaf.
Erbyn diwedd y sesiwn, fe ddylech chi allu:
- deall meithrin heddwch fel arfer hirdymor o ddatblygu
- mynegi’r berthynas rhwng llesiant a meithrin heddwch
- cynllunio i addysgu strategaethau ar gyfer meithrin heddwch drwy lesiant.
Mae cyfoeth o weithgareddau sy'n ymwneud â llesiant mewn ysgolion. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddeall sut gallech chi ymgorffori gweithgareddau o'r fath yn eich ymarfer meithrin heddwch.
Gwyliwch y fideo hwn lle mae Sioned yn cyflwyno Sesiwn 2.
