Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 6: Eich taith fel addysgwr heddwch

Cyflwyniad

Mae un unigolyn bach, sy’n rhoi ei holl amser i heddwch, yn cyrraedd y penawdau newyddion. Gall llawer o bobl, wrth roi rhywfaint o’u hamser, greu hanes.

(Peace Pilgrim, 1964, t. 22)

Gellir gweld pob aelod o gymuned yr ysgol fel addysgwr heddwch mewn rhyw ffordd, gan gynnwys y plant a’r bobl ifanc eu hunain. Yn y sesiwn olaf hon o'r cwrs byddwch yn ystyried oedolion fel addysgwyr heddwch. Ar gyfer hyn, mae’n bwysig meddwl yn ofalus am eich man cychwyn yn ogystal â’r cymorth rydych chi’n ei gael gan gydweithwyr a sefydliadau ehangach. Wrth i chi dyfu fel addysgwr heddwch, cymerwch bob cam ar y tro, gan ddathlu pob cyflawniad ar y ffordd.

Erbyn diwedd y sesiwn hon, fe ddylech chi allu:

  • bod â mwy o ymwybyddiaeth ohonoch chi eich hun fel addysgwr heddwch a lle gallech chi ddatblygu ymhellach
  • cael syniad o ble i ddechrau ar eich taith fel addysgwr heddwch neu ysgol heddwch
  • cael syniad o bwy y gallech chi gysylltu â nhw, neu beth allech chi ei ddarllen i ategu’r datblygiad hwnnw.

Gwyliwch y fideo hwn lle mae Bethan yn cyflwyno sesiwn olaf y cwrs.

Download this video clip.Video player: Fideo 1
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).