Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cyflwyniad a chanllawiau

Cyflwyniad

Mae’r cwrs hwn, Egwyddorion ac arferion addysg heddwch, yn gydweithrediad rhwng y Brifysgol Agored a’r Crynwyr ym Mhrydain. Mae’r cwrs yn cyflwyno egwyddorion craidd addysg heddwch i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Yn ogystal â syniadau ymarferol ar gyfer ymarfer bob dydd yn yr ystafell ddosbarth, mae’n cysylltu â deunyddiau ar gyfer astudio pellach a chynllunio’r cwricwlwm.

Mae’r cwrs wedi ei rannu’n chwe sesiwn. Dylai gymryd tua dwy awr i gwblhau pob sesiwn.

Sesiwn 1: Beth yw heddwch?

Sesiwn 2: Heddwch ynof fi fy hun

Sesiwn 3: Heddwch rhyngom

Sesiwn 4: Heddwch yn ein plith

Sesiwn 5: Heddwch yn y byd

Sesiwn 6: Eich taith fel addysgwr heddwch

Deilliannau dysgu

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • disgrifio cysyniadau sy’n sail i addysg heddwch
  • deall dulliau addysgeg o feithrin heddwch yn yr ystafell ddosbarth
  • bod yn ymwybodol o’r cymwyseddau y gellir eu datblygu drwy arferion addysg heddychlon gyda phlant a phobl ifanc
  • dechrau datblygu ymarfer hunanfyfyriol fel addysgwr heddwch myfyriol.