Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Beth yw ôl troed carbon digidol?

Diweddarwyd Dydd Iau, 15 Medi 2022

Mae ymwybyddiaeth o olion troed carbon yn cynyddu, felly i ba raddau mae ein ffordd o fyw ddigidol yn cyfrannu atynt. Mae'r erthygl hon yn ystyried yr effaith.

Dysgwch fwy am gyrsiau amgylchedd Y Brifysgol Agored


Olion troed carbon

Yn ôl Sefydliadau Meteoroleg y Byd, mae nifer y digwyddiadau hinsawdd eithafol wedi cynyddu mwy na phump gwaith yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. 

Yn eu hadroddiad yn 2021, nodir bod nifer yr argyfyngau hinsawdd a gofnodwyd wedi cynyddu o 711 yn yr 1970au i 3,165 yn y degawd rhwng 2010 a 2019.

Felly, efallai nad yw'n fawr syndod fod llawer mwy ohonom wedi dod yn ymwybodol o'r newid yn yr hinsawdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, rydym hefyd wedi dod yn ymwybodol bod ein dewisiadau teithio, ein deiet, y pethau rydym yn eu gwisgo a sut rydym yn gwresogi ein cartrefi oll yn cael effaith ar yr hinsawdd.   

Cyfeirir at yr effaith hon bellach fel ‘ôl troed carbon’ ac mae'n dangos faint o garbon deuocsid mae ein gweithgareddau neu ein dewisiadau wedi'i gyfrannu at yr atmosffer. Mewn gwirionedd, dim ond un o blith llawer o nwyon o'r enw 'nwyon tŷ gwydr' yw carbon deuocsid (CO2), ac mae ôl troed carbon yn cynnwys yr holl nwyon hynny, nid dim ond CO2. 

Nid yw pob nwy tŷ gwydr yn hafal. Mae rhai yn cael mwy o effaith, ac mae eraill yn para'n hirach. Felly, er mwyn symleiddio prosesau cemegol cymhleth, caiff yr amrywiol nwyon tŷ gwydr eu cynrychioli mewn symiau cyfwerth sy'n gysylltiedig ag effaith enwol carbon deuocsid; sef swm cyfwerth carbon deuocsid (CO2e). 

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, cyflwynwyd amrywiaeth helaeth o apiau ffonau clyfar sy'n anelu at helpu defnyddwyr i ddeall eu holion troed carbon a mynd i'r afael â nhw. Yn wir, mae llawer o'r banciau bellach yn darparu dadansoddiad o gategorïau gwario yn ôl eich ôl troed carbon fel rhan o'u hapiau eu hunain. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu bod ymwybyddiaeth o olion troed carbon yn uwch nag erioed. 

Fodd bynnag, mae un rhan bwysig iawn o'n ffordd o fyw y mae'n anodd dod o hyd iddi, neu yn wir nad yw'n bodoli, yn llawer o'r cyfrifianellau ôl troed carbon hyn – ac os nad ydych wedi dyfalu'n barod, ein ffordd o fyw ddigidol yw honno. 




Olion troed carbon digidol

Mae olion troed carbon digidol yn cynwys yr allyriadau CO2y gellir eu priodoli i'r cynhyrchion a'r gwasanaethau digidol yr ydym yn dibynnu cymaint arnynt yn ein bywydau modern.

Mae natur etheraidd e-bost o gymharu â llythyr ffisegol neu wylio ffilm gartref o gymharu â mentro allan i sinema fawr y tu allan i'r dref yn ein twyllo i feddwl bod yr opsiwn digidol yn ddibwys o gymharu ag opsiynau eraill.

Yn wir, fwy na thebyg y byddai gwylio ffilm gartref yn cyfrannu llai o garbon na neidio i mewn i gar confensiynol a gyrru i adeilad mawr wedi'i adeiladu'n arbennig, lle y gallech gael eich temtio i brynu mwy byth o gynhyrchion ffisegol. 

Fodd bynnag, nid yw'n ddibwys, ac nid yw'r effaith mor fach ag y byddech o bosibl yn ei ddisgwyl – nid yw dulliau digidol yn ddi-garbon, ac mae gan bopeth o dagiau olrhain asedau i ffonau symudol, rheseli o weinyddion cyfrifiaduron, galwadau fideogynadledda a phethau 'clyfar' olion troed. 

Diferion sy'n troi'n llifogydd

Gwnaeth yr awdur Prydeinig Winston Graham ysgrifennu unwaith am sut y gall esgeuluso diferyn o ddŵr sy'n dianc o argae ddatblygu'n gyflym a throi'n llifogydd a fydd yn eich golchi ymaith. Yn wir, mae esgeuluso ein hôl troed carbon digidol yn debyg i esgeuluso argae sy'n gollwng. Ond nid dim ond argae cyffredin, argae y mae ei gapasiti yn dyblu bob blwyddyn. 

Dyma hanfod yr her sy'n gysylltiedig ag olion troed carbon digidol – nid yw ein defnydd na'n dibyniaeth ar ddulliau digidol yn sefydlog, nac yn tyfu'n araf, mae'n tyfu ar gyfradd esbonyddol.

Wedi'i thanio gan y cynnydd cyflym mewn digidoleiddio a ysgogwyd gan y pandemig a'n tybiaeth ffug fod dulliau digidol yn ddi-garbon (neu'n agos ati), mae effaith ein ffyrdd o fyw digidol yn cynyddu ar gyfradd anhygoel ac nid oes unrhyw arwydd y bydd yn gostegu. 

Pa mor fawr? 

Mae union faint ein hôl troed carbon cyfunol yn destun trafod parhaus.

Mae amcangyfrifon presennol yn nodi bod allyriadau carbon y rhyngrwyd wedi creu cyfanswm anhygoel o 1.7 biliwn o dunelli o CO2e yn 2020. 

Er mwyn rhoi hynny mewn cyd-destun, allyriadau CO2cyfun 27 o wledydd yr UE yn 2020 oedd 2.6 biliwn o dunelli, roedd India yn gyfrifol am 2.44 biliwn a chyfrannodd Rwsia biliwn o dunelli. 




Anelu at ynni adnewyddadwy

Mae chwarter (25%) yr allyriadau carbon byd-eang yn dod o gynhyrchu trydan  ac mae'r rhyngrwyd yn defnyddio swm sylweddol o drydan. Unwaith eto, mae faint yn union y mae'n ei ddefnyddio yn destun trafod agored. 

Mae chweched adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn nodi bod defnydd trydan cyfunol dyfeisiau defnyddwyr, canolfannau data a rhwydweithiau yn cyfateb i rhwng 6 a 12% o gyfanswm defnydd ynni'r byd.

Er bod y gyfran hon o gyfanswm defnydd ynni'r byd yn sylweddol, mae llygedyn o obaith, gan ei bod yn hysbys bod diwydiant y rhyngrwyd yn cyflymu ei ymdrechion i newid o danwyddau confensiynol i ffynonellau adnewyddadwy.

Fodd bynnag, mae ffactorau awgrymiadol y dylid eu hystyried yn hyn o beth hefyd.

Er bod amcangyfrif y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd o ddefnydd ynni'r rhyngrwyd yn cynnwys cyfran eang o'n bywydau digidol, nid yw'n cynnwys popeth. Gall  technolegau digidol fodoli y tu hwnt i'r diffiniadau o'r rhyngrwyd, ac maent yn bodoli.

Er enghraifft, mae ein bywydau digidol a'n hôl troed carbon yn cynnwys setiau  teledu, blychau pen set, argraffwyr, gyriannau caled cludadwy, ceblau USB...ie, ceblau USB, beth am drafod hynny... 

80/20 unwaith eto

Nid dim ond y carbon a gaiff ei greu gan yr ynni sydd ei angen wrth i ni ddefnyddio ein ffonau, ein gliniaduron neu'n seinyddion clyfar sy'n effeithio ar olion troed carbon digidol. Mae gan ein gwasanaethau, ein cynhyrchion a'n hategolion digidol hanes carbon ymhell cyn i ni eu cyffwrdd.

Mae tua 80% o ôl troed carbon oes cynnyrch wedi'i gynnwys yn y ddyfais ei hun. Mae hyn yn cynnwys y CO2e a gynhyrchir yn ystod y prosesau gweithgynhyrchu, storio a chludo.

Felly pan fyddwch yn prynu ffôn clyfar newydd y mae angen cebl USB er mwyn ei wefru, mae allyriadau CO2y cebl hwnnw (yn ogystal â'r gwefrwr a'r deunydd pecynnu) yn rhan o ôl troed carbon ymgorfforedig cyffredinol y cynnyrch

Mae hyn yn arwain at ddatgeliad syml – yr un peth mwyaf y gallwn ei wneud i leihau ein hôl troed carbon digidol yw prynu llai ac ehangu oes ddefnyddiadwy'r pethau rydym yn berchen arnynt yn barod. 

Daw'r 20% sy'n weddill o'r ynni sydd ei angen i ddefnyddio'r cynnyrch neu'r gwasanaeth yn ystod ei oes.  

Er y gallai'r 20% hwn ymddangos fel elfen nad oes angen canolbwyntio arni o ystyried yr elfen arall o 80%, wrth i'n defnydd o dechnoleg ddigidol barhau i gyflymu dros amser, gallai twf parhaus o ran defnydd ynni a gaiff ei wastraffu'n ddiarwybod effeithio ar y cydbwysedd hwnnw.

Sut i leihau eich ôl troed carbon digidol  

Ar sail unigol, mae ein holion troed carbon digidol yn cynnwys nifer fach o elfennau mawr carbon-ddwys a llawer o ffactorau cynyddrannol llai. Ein her yw dod yn fwy ymwybodol o'r ffaith nad yw dulliau digidol yn ddi-garbon, wedyn newid ein harferion er mwyn osgoi defnyddio ynni diangen a gaiff ei wastraffu. 


Great things are done by a series of small things brought together.
Vincent van Gogh


Mae rhai o'r newidiadau hyn yn hawdd i'w gwneud a gallant gael effaith fawr.  

Ar lefel diwydiant, sefydliad neu fenter, gallwn wneud newidiadau a bydd effaith y newidiadau hynny yn lluosi ar draws ein cymunedau er mwyn creu effaith sylweddol. 


Mwy ar olion troed carbon


 


Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?