Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Cyfrifo eich ôl troed carbon

Diweddarwyd Dydd Mawrth, 23 Awst 2022

Hoffech chi ddeall mwy am eich ôl troed carbon, a'r hyn y dylech ac na ddylech ei wneud i'w leihau? Yma byddwn yn esbonio beth yw ôl troed carbon, ac mae gennym gyfrifiannell carbon y gallwch ei defnyddio i'ch helpu i asesu eich ôl troed eich hun.

Dysgwch fwy am gyrsiau amgylchedd Y Brifysgol Agored


Beth yw ôl troed carbon?


Ystyr ôl troed carbon yw faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr, sef carbon deuocsid yn bennaf, sy'n deillio o weithgareddau unigolyn, grŵp o bobl, tref neu ddinas, rhanbarth neu wlad bob blwyddyn, a hynny'n bennaf yn sgil defnyddio ynni a thrafnidiaeth a defnyddio bwyd, nwyddau a gwasanaethau. Caiff ei fesur yn ôl màs, mewn tunelli y flwyddyn, yr allyriadau carbon deuocsid (CO) yn unig, neu'r CO a màs allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill, megis methan, wedi'u trosi'n effaith ar wresogi byd-eang sy'n gyfwerth â charbon deuocsid cyfatebol (CO2e ).


Fideo: Peter Harper yn esbonio cysyniad yr ôl troed carbon

Dogfen PDF Trawsgrifiad 47.9 KB

Mae yna wahanol ffyrdd o fesur yr ôl troed carbon. Mae'r persbectif cynhyrchu yn cyfrif yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir gan wahanol sectorau o economi gwlad - cyflenwad ynni, gweithgynhyrchu, trafnidiaeth, amaethyddiaeth, adeiladu, bancio, gwasanaethau iechyd, ac ati. O'r safbwynt hwn, cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau o fewn pob gwlad sy'n bennaf gyfrifol ar gyfer allyriadau’r wlad honno, tra bod unigolion a chartrefi yn gyfrifol am ganran gymharol fach o’r cyfanswm yn unig.

Mae'r persbectif defnydd, ar y llaw arall, yn ystyried mai pwrpas economi fodern yw darparu unigolion a chartrefi â'r ynni, trafnidiaeth, bwyd, addysg a nwyddau a gwasanaethau eraill y mae arnynt eu hangen a'u heisiau. Felly, gellir dadlau mai unigolion a chartrefi, fel defnyddwyr terfynol yr holl bethau hyn, sy’n gyfrifol yn y pen draw am sbarduno’r rhan fwyaf o’r allyriadau sy’n gysylltiedig â’u cynhyrchu a’u dosbarthu, gan gynnwys mewnforion.

Can reducing your carbon footprint help get to Net Zero?


Fel y cytunwyd yng nghynhadledd COP26 y Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021, er mwyn atal newid hinsawdd trychinebus rhaid i'r tymheredd byd-eang cyfartalog ar wyneb y ddaear beidio â chynyddu mwy nag 1.5 gradd C uwchlaw lefelau cynddiwydiannol. Er mwyn cyflawni hynny, byddai'n rhaid i lefelau allyriadau byd-eang ostwng 45% erbyn 2030 o gymharu â lefelau 2010 a chyrraedd sero net erbyn 2050. 

Mae sero net yn cyfeirio at sefyllfa lle y bydd y nwyon tŷ gwydr a gaiff eu rhyddhau i'r atmosffer yn cael eu gwrthbwyso drwy dynnu nwyon cyfatebol allan o'r atmosffer. Nid yw ymrwymiad cyfreithiol Llywodraeth y DU i gyrraedd sero net erbyn 2050 yn golygu bod yn ddi-garbon (h.y. dim allyriadau), ond y byddai unrhyw allyriadau sy'n weddill o weithgarwch cynhyrchu a defnyddio yn y DU, yn ogystal â chyfran hedfanaeth a morgludiant rhyngwladol, yn cael eu gwrthbwyso drwy dynnu swm cyfwerth o nwyon tŷ gwydr allan o'r atmosffer, er enghraifft drwy blannu coed neu ddefnyddio technoleg fel dal a storio carbon. Er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050, mae Llywodraeth y DU wedi pennu cyllideb garbon sy'n mynnu ei bod yn rhaid i lefelau allyriadau tiriogaethol ostwng 68% erbyn 2030 a 78% erbyn 2035, sy'n dargedau heriol iawn.

Fideo: Peter Harper yn esbonio beth yw ystyr sero net 

Dogfen PDF Trawsgrifiad 47.9 KB

Mae sero net yn cyfeirio at allyriadau tiriogaethol ac felly nid yw'n cynnwys allyriadau sydd wedi'u ‘hymgorffori’ mewn nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio. Y gwledydd lle y caiff y nwyddau a'r gwasanaethau hynny eu cynhyrchu sy'n gyfrifol am leihau'r allyriadau hynny i sero net.

O safbwynt defnydd, er ei bod yn bosibl mai unigolion ac aelwydydd sy'n gyfrifol am y pen draw am achosi'r rhan fwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr, nid oes ganddynt reolaeth uniongyrchol dros y ffordd y caiff yr allyriadau hynny eu cynhyrchu yn y wlad hon ac mewn gwledydd tramor. Mae hyn yn golygu na all unigolion leihau eu holion troed carbon i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn symud tuag at sero net drwy newid eu ffyrdd personol o fyw, eu dulliau teithio na defnydd eu haelwydydd o ynni yn unig. Er mwyn cyrraedd sero net, mae angen newidiadau mawr a chyflym, a hynny ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, ym meysydd ynni, diwydiant, trafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig, a systemau bwyd.

Serch hynny, gall unigolion gyfrannu drwy leihau eu holion troed carbon personol. Yn ei adroddiad i Senedd y DU yn 2021, dywedodd Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd y gallai gweithredoedd unigolion fwy na haneru allyriadau cenedlaethol erbyn 2035.


Meeting the Net Zero target will require increased action from people, as consumers, workers, households, businesses and citizens. Our analysis shows that over half the emissions reductions needed to meet the Sixth Carbon Budget [a 78% reduction on 1990 UK territorial emissions by 2035] involve people making low-carbon choices, whether adjusting to the different characteristics of low-carbon technologies (eg, electric cars), or by changing their current consumption patterns (eg, by eating less meat).

2021 Progress Report to Parliament, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, t.97


Ond dim ond pe bai'r rhan fwyaf o bobl yn lleihau eu holion troed yn sylweddol, yn hytrach na lleiafrif o ‘bobl wyrdd’, y byddai lleihad o'r fath yn digwydd. Ond nid yw diffyg gweithredu pobl eraill yn golygu na ddylech geisio lleihau eich ôl troed. Nid yn unig y gall unigolion helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy wneud newidiadau technegol a newidiadau i'w ffordd o fyw, ond gall eu dewisiadau hefyd anfon negeseuon i'r llywodraeth a diwydiant, yn yr un modd â gweithredoedd gwleidyddol fel ymgyrchu a phleidleisio ynghylch materion amgylcheddol.

Astudiwch gwrs am ddim 


Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?