Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Pecyn cymorth gweithio hybrid a thrawsnewid digidol

Cyrsiau ar-lein am ddim ac adnoddau eraill i’ch helpu i ffynnu mewn byd digidol hybrid sy’n newid o hyd.


Mae'r pecyn hwn yn cynnig dulliau cyfannol sy’n canolbwyntio ar bobl, ar gyfer sefydliadau sy’n symud tuag at weithio hybrid cynaliadwy a dyfodol digidol.


Byddwch yn dysgu am ystod o bynciau, gan gynnwys:

  • Sgiliau digidol ac arweinyddiaeth
  • Trawsnewid digidol a meithrin diwylliant sy’n cael ei yrru gan ddata
  • Cynaliadwyedd
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol, rheoli ansicrwydd ac adeiladu gwydnwch
  • Profiad a diwylliant gweithio hybrid
  • Cyfathrebu cydweithredol a meithrin ymddiriedolaeth
  • Amrywiaeth a chynhwysiant
  • Llesiant corfforol a digidol
  • Rheoli newid

Byddwch hefyd yn clywed cyfraniadau gan sefydliadau addysg uwch, cyrff cyhoeddus, busnesau, a sefydliadau eraill a fydd yn rhannu eu teithiau tuag at ffyrdd newydd o weithio, ochr yn ochr â lleisiau arbenigol ym maes cynaliadwyedd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Hefyd ar gael yn Saesneg. | Also available in English.

Cyrsiau ar-lein am ddim


Erthyglau a gweithgareddau


Darllenwch fwy am y casgliad

Mae'r casgliad yn clywed gan y rheini mewn sefydliadau addysg uwch (SAUau), sefydliadau a chyrff cyhoeddus sy'n rhannu eu taith tuag at ffyrdd newydd o weithio, yn ogystal ag arbenigwyr mewn cynaliadwyedd a chynllunio ar gyfer y dyfodol, ac unigolion sy'n rhannu eu profiadau o addasu eu dull o weithio i weithio hybrid a'r effaith mae hyn wedi ei gael ar eu bywydau personol.  

Er mwyn helpu i ddatblygu eich ffordd o feddwl, y sgiliau posibl sydd eu hangen arnoch i ddatblygu a'r rôl rydych yn ei chymryd wrth gefnogi unigolion, timau a'ch sefydliad drwy weithio hybrid a thrawsnewid digidol, defnyddiwch 'Dulliau o weithio hybrid: darlun o fframwaith cynaliadwyedd cyd-destunol isod, a gafodd ei ddylunio yn arbennig ar gyfer y casgliad hwn. Wrth i sawl sefydliad a SAUau barhau i ddatblygu eu hymarfer hybrid, mae eich dull o weithio a chynllunio ar gyfer yr hirdymor yn hynod bwysig. Mae angen i chi gael cydbwysedd o ran anghenion ein rhanddeiliaid a'r sefydliad gan groesawu ac addasu i ffactorau allanol er mwyn cyrraedd amcanion strategol yn llwyddiannus.


Diagram cylchol yn dangos agweddau allweddo ar weithio hybrid a thrawsnewid digidol, a sut maent yn addas ar eich cyfer chi.


Er mwyn gwneud hyn yn ystyriol a llwyddiannus:

  1. Dylech chi, a'ch ffordd o weithio, ystyried y rhanddeiliaid allweddol o fewn eich amgylchedd yn ogystal â'u hanghenion mewn perthynas â datblygiad sefydliadol. 
  2. Mae angen i chi ddeall gofynion sefydliadol, y cyd-destun, y cysylltiadau a'r gofynion ar gyfer y meysydd allweddol o dan sylw a sut maent yn perthyn i anghenion eich rhanddeiliaid. 
  3. Mae angen i chi ystyried eich ffyrdd o weithio ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae'r casgliad yn canolbwyntio ar ddatblygiad sefydliadol, arweinyddiaeth, llesiant a chynhwysiant, sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol, cydweithio a chyfathrebu hybrid, rheoli newid a chynlluniau'r dyfodol. Mae hefyd yn darparu canllawiau i'r rheini sy'n dechrau gweithio neu'n dychwelyd i'r gwaith, ac yn gofyn i SAUau ystyried y rôl y gallant ei chwarae i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol. 

Wrth i ni barhau i gynllunio ac addasu i newid, ac ystyried y rhan y gallwn ni ei chwarae i gael lleoliadau gweithio cynaliadwy, mae'r casgliad yn darparu'r cyfle i adlewyrchu a chofio'r daith rydym wedi bod arni, a dysgu o'r profiadau hyn i ddatblygu ffyrdd o weithio a fydd yn ein galluogi i ffynnu yn y dyfodol.



Mwy gan OpenLearn


Mwy




HEFCW logo

Wedi’i wneud yn bosibl gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?