Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Lluniadu graffiau llinell

Mae lluniadu graff llinell yn debyg iawn i luniadu siart bar, ac mae ganddyn nhw lawer o’r un nodweddion.

Mae ar graffiau llinell angen:

  • teitl
  • label ar gyfer yr echelin fertigol (e.e. unedau arian cyfred)
  • graddfa â rhifau ar yr echelin fertigol
  • label ar yr echelin lorweddol (e.e. mis) fel ei bod yn glir i’r darllenydd ar beth mae’n edrych.

Y prif wahaniaeth wrth luniadu graff llinell yn hytrach na siart bar yw eich bod yn rhoi dot neu groes fach i gynrychioli pob darn o wybodaeth, yn hytrach na bar. Yna rydych yn uno’r dotiau â llinell. Mae cryn drafodaeth ynghylch a ddylid cysylltu’r dotiau â llinell grom neu â llinell syth. Er gwaethaf y dadlau hallt, y consensws cyffredin yw y dylid uno’r dotiau â llinellau syth.

Gweithgaredd 9: Lluniadu graff llinell

  1. Rhowch gynnig ar luniadu graff llinell i gynrychioli’r data isod.

    Mae’r tabl isod yn dangos y tymereddau yn Ninbych y Pysgod yn ystod pythefnos cyntaf mis Gorffennaf 2018.

Tabl 10
Dyddiad Tymheredd Uchaf ˚C Tymheredd Isaf ˚C
01/07/2018 25 15
02/07/2018 28 17
03/07/2018 29 12
04/07/2018 24 15
05/07/2018 26 13
06/07/2018 22 12
07/07/2018 23 12
08/07/2018 27 12
09/07/2018 26 14
10/07/2018 24 14
11/07/2018 22 14
12/07/2018 22 7
13/07/2018 24 12
14/07/2018 25 20

Ateb

  1. Dylai’ch graff llinell edrych yn debyg i’r un a ddangosir isod, gyda theitl, allwedd a labeli ar yr echelinau.

    Described image
    Ffigur 20 Graff llinell o’r tymereddau yn Ninbych y Pysgod ym mis Gorffennaf 2018
  1. Mae gan siop ddillad fannau gwerthu yn Llandudno ac yn Aberystwyth. Defnyddiwch y data yn y tabl isod i luniadu graff llinell yn cymharu’r gwerthiannau misol rhwng mis Ionawr a mis Mehefin.
Tabl 11
Mis Ion Chwe Maw Ebr Mai Meh

Gwerthiannau

(£000)

   

Llandudno 29 15 19 20 23 24
Aberystwyth 25 10 16 16 21 26

Ateb

  1. Dylai’ch graff llinell edrych yn debyg i’r un a ddangosir isod, gyda theitl, allwedd a labeli ar yr echelinau.

    Described image
    Ffigur 21 Graff llinell yn dangos gwerthiannau hanner blwyddyn ar gyfer Llandudno ac Aberystwyth