Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Deall y grymoedd marchnata sy’n gallu effeithio ar ein gwariant

Mae’r ffigur yn llun o ddyn a menyw ifanc gefn wrth gefn mewn archfarchnad yn ystyried pryniannau posibl.
Ffigur 4 Beth sy’n dylanwadu ar eich dewis o gynnyrch?

Un rheswm pam mae pobl weithiau’n talu prisiau uwch am nwyddau a gwasanaethau penodol yw eu bod yn credu bod pris uwch yn cyfateb i ansawdd uwch. Mae pris cynnyrch yn aml yn cael ei ddefnyddio fel llwybr byr meddyliol i asesu ansawdd. Defnyddir llwybrau byr o’r fath (a elwir weithiau’n hewristigau) i helpu i asesu sefyllfaoedd pan nad oes llawer o wybodaeth ar gael. Mae adrannau marchnata yn defnyddio’r credoau hyn yn y farchnad i ddylanwadu ar wariant pobl.

Wrth gwrs, gallai’r cysylltiad rhwng pris ac ansawdd fod yn gywir neu’n anghywir; neu o leiaf efallai na fydd y gwahaniaethau mewn pris yn adlewyrchu gwahaniaethau mewn ansawdd, yn enwedig o ran eitemau drutach wedi’u brandio.

Dyma restr o rai llwybrau byr cyffredin ar gyfer gwneud penderfyniadau y mae pobl yn eu defnyddio wrth siopa. Meddyliwch beth mae pob llwybr byr yn ei awgrymu i chi ei wneud, a phwy sydd am i chi ei gredu.

  • Yng nghyswllt archfarchnadoedd, dim ond brandiau cenedlaethol a werthir dan label gwahanol am bris is yw cynnyrch eu ‘brand eu hunain’.
  • Mae cynwysyddion mwy eu maint yn rhatach fesul uned na meintiau llai.
  • Pan fydd amheuaeth, mae brand mawr bob amser yn bet diogel.
  • Nid yw eitemau sydd wedi’u clymu wrth ‘nwyddau a roddir am ddim’ yn werth da.
  • Mae siopau sydd newydd agor fel arfer yn cynnig prisiau deniadol.
  • Mae siopau mawr yn cynnig prisiau is na siopau llai.
  • Mae siopau bach yn rhoi gwell gwasanaeth i chi na siopau mawr.
  • Mae prisiau uwch yn arwydd o ansawdd gwell.
  • Wrth brynu nwyddau a hysbysebir yn helaeth, rydych yn talu am y label yn hytrach na’r ansawdd.
  • Mae cynnyrch mwy diweddar yn debygol o gynnwys technoleg mwy newydd a gwell.
  • Mae’n well prynu cynnyrch sydd wedi hen ennill eu plwyf ac sydd wedi cael eu profi gan y farchnad ers cryn amser.
  • Os bydd cwmnïau’n hysbysebu’n drwm, rhaid eu bod yn credu y bydd eu cynnyrch yn gwerthu’n dda.
  • Peidiwch â phrynu pysgod ‘ffres’ ar ddydd Llun.

Mae rhai o’r llwybrau byr hyn yn awgrymu y dylech brynu o siopau mawr; rhai o siopau bach. Mae rhai yn dweud wrthych y dylech chwilio am fargeinion; eraill nad yw'n werth gwneud hynny. Mae rhai yn awgrymu bod prynu brandiau a enwir yn warchodaeth; eraill eu bod yn wastraff arian.

Ym mhob achos, mae rhai grwpiau, cynhyrchwyr neu adwerthwyr penodol, a fyddai’n hoffi i chi gredu yn yr hyn sy’n cael ei ddweud fel eich bod yn gwario eich arian ar eu cynnyrch hwy yn hytrach na chynnyrch eu cystadleuwyr.

Gweithgaredd 7 Llwybrau byr meddyliol: pa rai ydych chi’n eu credu a’u defnyddio?

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Sawl un o’r ‘llwybrau byr’ uchod ydych chi’n eu credu a’u defnyddio wrth siopa? Oes gennych chi unrhyw rai eraill rydych chi’n eu defnyddio?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Bydd yr ateb yn amlwg yn amrywio o berson i berson ond mae’r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio o leiaf un o’r llwybrau byr hyn, boed yn ymwybodol neu’n anymwybodol.

Mae rhai fel arfer yn ddibynadwy – er enghraifft, mae cost pob uned o nwyddau mewn cynwysyddion mawr fel arfer yn is nag mewn cynwysyddion llai. Ond nid bob amser. Gwiriwch hyn y tro nesaf y byddwch chi mewn archfarchnad. Mae llwybrau byr eraill, ar y gorau, yn ffrwyth dychymyg.

Mae rhai llwybrau byr, er y gallech hyd yn oed gredu’r ddau ohonynt, yn anghyson – gweler y cyntaf a’r trydydd llwybr byr ynghylch ‘brandiau’.