Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Benthyca cost isel a chost uchel

Rydych chi wedi edrych ar sawl ffordd wahanol o fenthyca yn y sesiwn hon. Nawr, edrychwch i weld faint rydych chi wedi’i ddysgu am y cynhyrchion dyled hyn.

Mae’r ddelwedd yn llun agos o gerdyn debyd neu gredyd, sy’n canolbwyntio ar y sglodyn sydd wedi’i blannu ynddo.
Ffigur 9 Mae’r sglodyn yn y cerdyn yn ei gwneud yn hawdd ac yn gyflym i wneud taliadau

Gweithgaredd 4 Cyfateb y cynnyrch dyled i’w nodweddion

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Nodir yn y tabl isod chwe ffordd wahanol o gael benthyg arian.

O dan y tabl ceir naw datganiad sy’n berthnasol i o leiaf un o’r ffyrdd hyn o fenthyca.

Gan ddefnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn ystod y sesiwn hon, dewiswch, ar gyfer pob ffordd o fenthyca, y tri datganiad sy’n berthnasol iddyn nhw.

Yn y blychau yn y golofn ar y dde, teipiwch y llythrennau (A-I) ar gyfer y tri sylw sy’n berthnasol.

Ffyrdd o fenthyca arian Nodweddion neu ganlyniadau’r dull hwn o fenthyca (A-I)
Morgais
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Benthyciad gan y Banc
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Gorddrafft
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Cerdyn credyd
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Cerdyn siop
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Benthyciad diwrnod cyflog
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Nodweddion sy’n gysylltiedig fel arfer â’r dull benthyca

  • A.Cyfradd llog cost isel (o gymharu â chost gyfartalog y chwe ffordd o fenthyca a restrir)
  • B.Cyfradd llog cost uchel (o gymharu â chost gyfartalog y chwe ffordd o fenthyca a restrir) os nad ar gyfradd hyrwyddo – ee, cyfradd 0% ar gyfer cyfnod rhagarweiniol
  • C.Mae perygl y bydd ased o’ch eiddo (ee, eich cartref) yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu'r ad-daliadau
  • D.Gall fod yn ddi-log am gyfnod (ee, cyfraddau 0% cyflwyniadol ar gyfer trosglwyddiadau balans)
  • E.Maen nhw’n aml yn gallu cael disgownt i chi y tro cyntaf y byddwch yn eu defnyddio i brynu nwyddau mewn siop
  • F.Os yw’r cyfleuster hwn wedi’i drefnu ymlaen llaw, gallwch ei ddefnyddio i fenthyca ar unwaith heb orfod rhoi gwybod i’ch banc
  • G.Bydd rhoddwr y benthyciad angen prisiad o'r ased yr ydych yn ei brynu cyn rhoi benthyg arian
  • H.Mae gennych ddisgresiwn ynghylch ar beth yr ydych yn gwario’r arian a fenthyciwyd
  • I.Gallai benthyca fel hyn amharu ar eich sgôr credyd

Ateb

Ffyrdd o fenthyca arian Nodweddion neu ganlyniadau’r dull hwn o fenthyca
Morgais A, C, G
Benthyciad gan y Banc A, F, H
Gorddrafft B, F, H
Cerdyn credyd B, D, H
Cerdyn siop B, E, H
Benthyciad diwrnod cyflog B, H, I

Da iawn – rydych chi bron â gorffen y sesiwn.

Nawr mae’n amser cwblhau’r cwis diwedd sesiwn. Ar ôl hynny, bydd y sesiwn yn cael ei dirwyn i ben, a byddwch yn cael awgrymiadau os byddwch chi'n cael trafferth rheoli ad-dalu'r arian rydych chi wedi'i fenthyg.