Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechreuwch y cwrs yma am ddim nawr. Crëwch gofrif a mewngofnodwch. Ar ôl o chi gwblhau cwrs byddwch yn derbyn datganiad cyfranogiad neu fathodyn digidol os oes un ar gael.

Cwrs am ddim

Academi Arian MSE

Sesiwn 3: Benthyca arian

Cyflwyniad

Mae Martin Lewis yn cyflwyno Sesiwn 3 ar fenthyca, gan archwilio’r rhesymau da a gwael sydd gan bobl dros fynd i ddyled.

Download this video clip.Video player: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
MARTIN LEWIS
Debt. Debt is like fire. Used right, it’s a useful tool. Used wrong, and it burns. Now, the module is going to take you through some of the technicals. But before you get there, I want to talk to you about when is it right or wrong to borrow?
And to do that, for a long time I talk about my good debt/bad debt quiz. It’s a little bit easy, but the idea is to get you thinking. So let’s start. Question number 1, we’ve been saving for a long time to get a mortgage to buy a house.
We’ve got a decent deposit together, and we’ve found a fixed rate for five years that we know we can afford. In fact, it’s going to be cheaper than our rent. This isn’t an investment. This is somewhere for me and my family to live for the long term. Is that good debt or bad debt? So you answer in your own head.
Of course, it’s good debt. It’s planned. It’s rational. It’s affordable. It enables you to do something that you wouldn’t otherwise be able to do without borrowing, and something that’s good for you in life.
We have to get away from that age-old, grand parental wisdom of neither a borrower nor a lender be. That simply doesn’t work in the 21st century. For some things in our lives, we will need to borrow, whether it’s buying a house, or whether it’s getting what they call debt when you go to university. Borrowing isn’t necessarily a bad thing. It’s all about understanding the difference between good and bad debt.
Question 2, I want to go on holiday, and there’s a holiday to Jamaica for 5,000 pounds. I earn 6,000 pounds a year, but the payday loan company has said they’ll lend me the money at only 10% interest, an hour. Good debt, bad debt?
Yeah, look, no surprise, Sherlock. It’s bad debt. Nobody get the point from this I’m saying you should always be borrowing. Borrowing can be right or wrong. It needs to be planned, a one-off, affordable, budgeted for that you can afford the repayments.
If it isn’t, don’t touch it. Don’t sniff it. Don’t smell it. You need to understand both, should I be borrowing? And if I do borrow, what’s the right way to do it? The answer to that is as cheaply as possible, and repaid as quickly as you possibly can, because the longer you borrow for, the more the interest adds up and up and up.
Question 3, I lost my job six months ago. It’s been a really tough time for me and the family, and I’ve been struggling to get a new job. But I’ve just been offered one.
I live in the city. This new job’s in the countryside, so we’re going to have to relocate, but I found an affordable house that I can rent. However, when we do move to that house, my job’s 6 miles in that direction, and my kids’ school’s 7 miles in that direction, and one of them has a bad knee so we can’t cycle. So we’re going to need transport.
But there’s no public transport where we live. That’s what I used to rely on in the city. So I need to get a car. The cheapest reliable car I can find is 2,000 pounds, but I’ve got no savings left. I’m going to have to borrow for it. And the cheapest loan I can get is at 20% APR, because having been out of work, my credit score isn’t that good.
But if I don’t get the car, I can’t take the job, because I couldn’t get to work, and the kids couldn’t get to school. But the job has a three-month probationary period. So if, after three months, I’ve got the car and then they let me go, I won’t be able to afford the repayments. I might even go bankrupt. But if I don’t get the car, I can’t get the job. Good debt, bad debt?
You’re probably not answering this one as quickly. Have a moment to think about it. OK, let me give you the official, Martin Lewis, money saving expert answer. This is grey debt, somewhere between good and bad debt. I know. I cheated a little bit. I’m allowed. I’m setting the question.
But this is the question that truly resembles real life. Borrowing is never that clear-cut. Now, if you said it’s good debt because you said to yourself, you know what? I’ve got faith in my own abilities.
I’m going to work hard. I’m going to get that job. They’re going to keep me on after the three-month probationary period, and then life’s going to get better, well done. You made a good, rational decision.
If you said, it’s bad debt. I’m risk-averse. I don’t want the borrowing. I think I’ll get another job somewhere else. If I wait and work hard enough, it’s going to work out for me, well done. You made a rational decision. You were right for you.
If you didn’t make a decision, or you didn’t think it through, that’s the problem. One of the things they don’t teach us in school, and one of the big problems we all have to deal with in our life, is wrestling with uncertainty. It could be, should I get the loan? Should I fix my gas and electricity bill, or my mortgage? Should I marry him or her?
All of them are answers, that without a crystal ball, we don’t know how it’ll work out. So what you have to do is think it through. Write down the pluses and the negatives. Plan for the worst. Hope for the best.
Don’t then, once you’ve made your decision, if it goes wrong, sit there and think, I made a bad decision. If you did everything you possibly could knowing what you could, you didn’t make a bad decision. You had a bad outcome. And you mustn’t confuse the two.
We can’t always get it right, but we can always do all we can to think through the options. And if you’ve done that, that’s as much as any of us can do for ourselves. Don’t feel guilty about it afterwards. But when it comes to debt, don’t simply get it willy-nilly. Then I would tell you off.
End transcript: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.

Download this audio clip.Audio player: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
ADRODDWR:
Dyled. Mae dyled fel tân. Os caiff ei ddefnyddio’n iawn, mae’n adnodd defnyddiol. Os caiff ei ddefnyddio’n anghywir, mae’n llosgi. Mae’r modiwl hwn yn mynd i’ch tywys chi drwy rywfaint o’r elfennau technegol. Ond, cyn hynny, hoffwn siarad â chi am ba bryd mae benthyca’n benderfyniad da neu beidio.
I wneud hynny, rydw i am siarad am fy nghwis dyled dda/dyled ddrwg. Mae braidd yn hawdd, ond y syniad yw eich cael chi i feddwl. Felly, beth am ddechrau? Cwestiwn rhif un, rydyn ni wedi bod yn cynilo am amser hir i gael morgais i brynu tŷ.
Mae gennym ni flaendal go lew ac rydyn ni wedi dod o hyd i forgais cyfradd sefydlog am bum mlynedd rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu ei fforddio. A dweud y gwir, fe fydd yn rhatach na’r rhent rydyn ni’n ei dalu nawr. Nid buddsoddiad yw hwn. Rhywle i mi a fy nheulu fyw ynddo yn y tymor hir yw hwn. Ydy hon yn ddyled dda neu’n ddyled ddrwg? Atebwch yn eich pen.
Wrth gwrs, mae’n ddyled da. Mae wedi cael ei gynllunio. Mae’n synhwyrol. Mae’n fforddiadwy. Mae’n eich galluogi chi i wneud rhywbeth na fyddech chi’n gallu ei wneud heb fenthyca, ac mae’n rhywbeth sy’n dda i chi yn eich bywyd.
Rhaid i ni symud oddi wrth yr hen ddoethineb sy’n eich cynghori i beidio â benthyca arian gan unrhyw un na rhoi benthyg arian i unrhyw un. Dydy hynny ddim yn gweithio yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd angen i ni fenthyca arian ar gyfer rhai pethau yn ein bywydau, boed hynny’n brynu tŷ, neu’n ddyled er mwyn mynd i'r brifysgol. Dydy benthyca ddim yn beth drwg o reidrwydd. Y peth pwysig yw deall y gwahaniaeth rhwng dyled dda a dyled ddrwg.
Cwestiwn dau, rydw i eisiau mynd ar wyliau ac mae gwyliau i Jamaica ar gael am bum mil o bunnoedd. Rydw i’n ennill chwe mil o bunnoedd y flwyddyn, ond mae’r cwmni benthyciadau diwrnod cyflog wedi dweud y bydd yn rhoi benthyg yr arian i mi ar ddim ond 10% o log, yr awr. Dyled dda, dyled ddrwg?
Ie, dydy hyn ddim yn eich synnu mae’n siŵr. Mae hon yn ddyled ddrwg. Dydw i ddim eisiau i neb feddwl fy mod i’n dweud y dylech chi fod yn benthyca bob amser. Gall benthyca fod yn iawn neu ddim yn iawn. Mae angen iddo fod achlysur unigol, sydd wedi’i gynllunio ac yn fforddiadwy, ac mae angen i chi fod wedi cyllidebu ar ei gyfer er mwyn gallu fforddio’r ad-daliadau.
Os nad yw’n ticio’r bocsys yma, peidiwch â mynd ar ei gyfyl. Peidiwch â’i synhwyro. Peidiwch â’i arogli. Mae angen i chi ddeall, a ddylwn i fod yn benthyca? Ac, os ydw i’n benthyca, beth yw’r ffordd gywir o wneud hynny? Yr ateb yw gwneud hynny mor rhad â phosibl, a’i ad-dalu cyn gynted â phosibl, oherwydd po hiraf rydych chi’n benthyca, y mwyaf mae'r llog yn cronni’n fwy ac yn fwy ac yn fwy.
Cwestiwn tri, collais fy swydd chwe mis yn ôl. Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i mi a fy nheulu, ac rydw i wedi bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i swydd newydd. Ond rydw i newydd gael cynnig un.
Rydw i’n byw yn y ddinas. Mae’r swydd yng nghefn gwlad, felly bydd rhaid i ni symud, ond rydw i wedi dod o hyd i dŷ fforddiadwy y gallwn ni ei rentu. Fodd bynnag, pan fyddwn ni’n symud i’r tŷ hwnnw, mae fy ngwaith i chwe milltir i un cyfeiriad ac ysgol fy mhlant saith milltir i gyfeiriad arall, ac mae gan un ohonyn nhw ben-glin wael felly allwn ni ddim beicio. Bydd angen trafnidiaeth arnom ni felly,
Ond does dim trafnidiaeth gyhoeddus lle rydyn ni’n byw. Dyna oeddwn i’n arfer dibynnu arno yn y ddinas. Felly mae angen car arna i. Mae’r car dibynadwy rhataf rydw i’n gallu dod o hyd iddo yn ddwy fil o bunnoedd, ond does gen i ddim cynilion ar ôl. Bydd rhaid i mi fenthyca er mwyn ei gael. Mae’r benthyciad rhataf rydw i’n gallu ei gael ar APR o ugain y cant, oherwydd dydy fy sgôr credyd ddim yn wych am fy mod i wedi bod yn ddi-waith.
Ond, os nad ydw i’n cael y car, alla i ddim cymryd y swydd oherwydd allwn i ddim mynd i'r gwaith ac ni allai'r plant fynd i’r ysgol. Ond, mae gan y swydd gyfnod prawf o dri mis. Felly, ar ôl tri mis, os ydw i wedi prynu’r car a’u bod nhw’n penderfynu peidio â fy nghadw, fydda i ddim yn gallu fforddio’r ad-daliadau. Gallwn i fynd yn fethdalwr hyd yn oed. Ond os nad ydw i’n cael y car, alla i ddim cymryd y swydd. Dyled dda, dyled ddrwg?
Mae’n siŵr eich bod chi ddim yn ateb yr un yma mor sydyn. Meddyliwch amdano am ychydig. Iawn, gadewch i mi roi ateb swyddogol Martin Lewis, yr arbenigwr arbed arian, i chi. Dyled lwyd yw hon; rhywle rhwng dyled dda a dyled ddrwg. Dwi’n gwybod. Rydw i wedi twyllo ychydig bach. Ond rydw i’n cael. Fi sy’n gosod y cwestiwn.
Hwn yw'r cwestiwn sy’n adlewyrchu bywyd go iawn. Dydy benthyca byth mor ddu a gwyn â hynny. Nawr, os dywedoch chi ei bod yn ddyled dda, fe ddywedoch chi wrthoch chi eich hun: Mae gen i ffydd yn fy ngallu.
Rydw i’n mynd i weithio’n galed. Rydw i’n mynd i gael y swydd. Maen nhw’n mynd i fy nghadw i ar ôl y cyfnod prawf o dri mis, ac wedyn mae bywyd yn mynd i wella. Da iawn, fe wnaethoch chi benderfyniad da a rhesymegol.
Os dywedoch chi ei bod yn ddyled ddrwg: Dydw i ddim yn hoff o gymryd risg. Dydw i ddim eisiau benthyca. Dwi’n meddwl y gwna i geisio cael swydd yn rhywle arall. Os gwna i aros a gweithio’n ddigon caled, fe wnaiff pethau wella i mi. Da iawn, fe wnaethoch chi benderfyniad rhesymegol. Dyna oedd y penderfyniad iawn i chi.
Os na wnaethoch chi benderfyniad, neu os na wnaethoch chi ystyried y peth yn ofalus, dyna’r broblem. Un o'r pethau dydyn nhw ddim yn ei ddysgu i ni yn yr ysgol, ac un o'r prif broblemau mae’n rhaid i ni ddelio â nhw yn ein bywydau, yw brwydro gydag ansicrwydd. Er enghraifft, a ddylwn i gael y benthyciad? A ddylwn i gael bil nwy a thrydan sefydlog, neu forgais sefydlog? A ddylwn i briodi’r person yma?
Mae pob un o’r rhain yn sefyllfaoedd lle nad ydyn ni, heb bêl grisial, yn gallu gwybod sut bydd pethau’n mynd. Felly, yr hyn mae’n rhaid i chi ei wneud yw ystyried y peth yn ofalus. Nodwch y manteision a’r anfanteision. Cynlluniwch ar gyfer y sefyllfa waethaf bosibl. Gobeithiwch am y gorau.
Wedyn, ar ôl gwneud eich penderfyniad, os yw pethau’n mynd o chwith, peidiwch ag eistedd yno’n meddwl, dwi wedi gwneud penderfyniad gwael. Os gwnaethoch chi bopeth y gallech chi yn gwybod popeth posibl, wnaethoch chi ddim gwneud penderfyniad gwael. Fe gawsoch chi ganlyniad gwael. Peidiwch â drysu rhwng y ddau.
Allwn ni ddim gwneud y penderfyniad iawn bob amser, ond fe allwn ni wneud popeth posibl i ystyried yr opsiynau’n ofalus. Ac, os ydych chi wedi gwneud hynny, dyna'r gorau y gall pob un ohonom ei wneud. Peidiwch â theimlo’n euog am y peth wedyn. Ond, gyda dyled, peidiwch ag ymrwymo iddo’n fyrbwyll. Byddwn i’n dweud y drefn wrthych chi pe baech chi’n gwneud hynny.
End transcript: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Er na ddylid byth benthyca’n ysgafn, ac y dylai bob amser fod ar gyfer rhywbeth fforddiadwy y lluniwyd cyllideb ar ei gyfer, os yw pobl yn gallu rheoli eu dyledion yn synhwyrol ac ad-dalu arian o leiaf ar amser neu, yn well fyth, cyn gynted ag y bo modd, yna nid oes angen mynd i banig. Wedi’r cyfan, ni all y rhan fwyaf o bobl fforddio prynu cartref neu gar gan dalu ar eu hunion, felly mae angen iddynt fenthyg arian parod, sydd yn ei dro’n helpu i roi hwb i’r gwahanol farchnadoedd.

Yn y UK yn 2021, roedd dyled bersonol yn gyfanswm anhygoel o £1.7 triliwn. Mae hynny’n £1,700 biliwn o bunnoedd o arian a fenthyciwyd sy’n ddyledus gan aelwydydd yn y DU.

Y newyddion da yw nad yw benthyca yn achosi problemau ariannol i lawer o bobl. Ond i rai pobl, mae ad-dalu arian a fenthyciwyd yn broblem.

Eto, ni all rhai pobl fenthyca ar gost resymol oherwydd eu statws credyd gwael. Gallai eu hamgylchiadau, sy’n aml yn gysylltiedig â bod ar incwm isel, eu gorfodi i ddefnyddio ffynonellau benthyca drud megis credyd tymor byr cost uchel – a gallai cost benthyca fel hyn olygu bod eu hanawsterau ariannol yn gwaethygu.

Mae’r sesiwn hon o’r cwrs yn canolbwyntio ar yr hyn y mae angen i chi ei wybod er mwyn gallu benthyca’n effeithiol ar y telerau gorau, ac ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i sicrhau bod benthyg arian yn ddefnyddiol, yn hytrach nag yn ffynhonnell hunllefau ariannol.

Byddwch hefyd yn gweld bod y gallu i fenthyca a chost benthyca’n cael eu pennu gan bethau y mae gennych rywfaint o reolaeth drostynt (megis eich sefyllfa ariannol a’ch hanes credyd, sy’n effeithio ar ba mor ddeniadol ydych fel cwsmer benthyca) a phethau na allwch eu rheoli (fel lefel bresennol cyfraddau llog).

Ar ôl astudio'r sesiwn hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • deall gan bwy y gallwch fenthyca a pha gynhyrchion sydd ar gael
  • deall beth sy’n effeithio ar eich sgôr credyd a beth allwch chi ei wneud i’w reoli
  • gwybod pa bryd y mae benthyca'n synhwyrol a phryd y mae'n fyrbwyll
  • deall beth sy’n pennu cost benthyca arian
  • deall cost gymharol gwahanol ffyrdd o fenthyca.

Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.

AOM_2

Oeddech chi'n gwybod pe byddech chi'n astudio cwrs rhan-amser â thâl gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru, gallech gael hyd at £4,500* i'ch helpu gyda'ch costau byw?

Mwy o wybodaeth

*Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol.