Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Pum ffaith ryfeddol am ryw a'r pandemig

Diweddarwyd Dydd Llun, 14 Chwefror 2022

Mae rhyw yn golygu llawer o bethau i lawer o bobl. I gyplau, gall olygu chwant a phleser, hwyl a chyffro, ac, weithiau, rhwymedigaeth a dyletswydd. Pan fydd yn gweithio, mae'n wych.

Dysgwch fwy am gymwysterau ystadegau gan Y Brifysgol Agored.

Gall rhyw gryfhau perthynas y cwpl a hwyluso ymdeimlad unigryw o agosatrwydd emosiynol. Yng nghanol nwyd ac angerdd, gall meddyliau am fywyd cartref a'r byd tu allan ddiflannu.

Mae agosrwydd rhywiol yn tueddu i amrywio yn ystod cwrs bywyd. Mae'n codi a gostwng wrth i faterion eraill bywyd gymryd blaenoriaeth ac wrth i'r amser ar gyfer agosrwydd edwino. Er y caiff ei gydnabod fel un o'r agweddau mwyaf preifat ar ein bywydau, mae dylanwadau allanol, fel ein swyddi, yn effeithio ar ryw hefyd. Mae ymchwil bellach wedi dangos sut mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith ddofn ar ein bywydau rhywiol.

Felly dyma bum ffordd y mae'r pandemig wedi effeithio ar ein bywydau rhywiol.

1. Newidiadau mewn amlder rhywiol

Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan dîm COVID1 Natsal (Arolygon Cenedlaethol o Agweddau a Ffyrdd o Fyw Rhywiol), oddeutu bedwar mis yn dilyn cyfnod clo cyntaf y DU ym mis Mawrth 2020, nad oedd tua hanner y bobl ym Mhrydain yn gweld unrhyw newid o ran pa mor aml roeddent yn cael rhyw â phartner.Fodd bynnag, nid oedd hyn yn wir i bawb ac mae'n dibynnu i raddau helaeth ar y math o bartneriaeth roedd pobl ynddi yn ystod y cyfnod clo, gyda dwy ran o dair o bobl nad oeddent yn byw gyda phartner yn nodi lleihad ym mha mor aml roeddent yn cael rhyw.

I'r gwrthwyneb, y bobl a oedd fwyaf tebygol o fod wedi cael rhyw oedd y rhai mewn perthynas sefydlog a oedd yn byw gyda'u partner (81%), nad yw'n llawer o syndod o bosibl o ystyried bod cyfyngiadau COVID wedi atal pobl nad oeddent yn byw gyda phartner rhag bod gyda'i gilydd yn gorfforol. Serch hynny, gwnaeth llawer o bartneriaid nad oeddent yn cyd-fyw barhau i gael rhyw (24%), yn enwedig unwaith y cafodd ‘swigod cefnogaeth’ eu cyflwyno.2

2. Newidiadau ym mhatrymau perthnasoedd

Mewn ymchwil arall a gwblhawyd gan Relate mewn partneriaeth ag eHarmony, tynnwyd sylw at ‘berthnasoedd tyrbo’, lle roedd pobl yn gwneud ymrwymiad i'w gilydd ac yn penderfynu cyd-fyw yn gyflymach nag o'r blaen, ond nid oedd hyn yn golygu bod popeth yn hollol ddidrafferth. Yn yr astudiaeth, nododd 12% o'r rhai mewn perthynas fod eu bywyd rhywiol wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.3

3. Newidiadau yn ansawdd perthnasoedd

Craidd canfyddiadau astudiaeth COVID Natsal yw bod llawer o bobl yn dal i gael rhyw yn ystod y cyfnod clo, ond nid oedd hyn yn golygu bod perthnasoedd yr un peth ag o'r blaen. Nododd cyplau mewn perthnasoedd ‘sefydlog’ fod ansawdd eu bywyd rhywiol yn fwy tebygol o fod wedi dirywio nag ansawdd cyffredinol eu perthynas, a oedd yn fwy tebygol o wella.4 

Mae'n debygol bod y straen a'r gorbryder a achoswyd gan y pandemig yn ffactor pwysig a gyfrannodd at hyn, gan gael effaith andwyol ar ddyhead rhywiol ond, i'r gwrthwyneb, yn cryfhau agosatrwydd emosiynol wrth i gyplau droi at ei gilydd am gefnogaeth.

4. Newidiadau mewn arferion rhywiol

Ymhlith y rhai a oedd wedi cael rhyw yn ystod y cyfnod clo, roedd y rhai a oedd mewn perthnasoedd achlysurol yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio teganau rhyw na'r rhai mewn partneriaethau sefydlog, tra bo eraill yn disgrifio cyplau a phobl sengl fel ei gilydd yn prynu teganau rhyw ‘mewn panig’ yn ystod y pandemig.5

5. Newidiadau mewn gwerthiannau teganau rhyw

Mae canfyddiadau ymchwil i'r farchnad yn rhoi mwy o gig ar yr asgwrn o ran darlun Natsal-COVID o fywydau rhywiol yn dilyn y pandemig. Nododd adroddiadau gan gwmnïau teganau rhyw o bedwar ban byd fod gwerthiannau wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y pandemig.

Nododd ymchwil arolygon a gynhaliwyd gan fanwerthwr teganau rhyw yn yr UD, Tracy’s Dog, fod pobl yn fwy tebygol o brynu teganau rhyw newydd a'u defnyddio'n amlach yn ystod y pandemig. Dywedodd Wow Tech Group fod gwerthiannau ar-lein wedi cynyddu 200 y cant rhwng mis Ebrill 2019 a mis Ebrill 2020 a gwelodd Lelo gynnydd o 60 y cant mewn gwerthiannau ar y rhyngrwyd ym mis Mawrth 2020. Mae'r manwerthwr teganau rhyw a dillad isaf, Ann Summers, wedi gweld cynnydd o 27 y cant mewn gwerthiannau teganau rhyw.

Darlun o ystafell wely hynod flêr a lliwgar person ifanc.

Gadewch i ni siarad am ryw

Mae rhyw yn parhau i fod yn un o'r meysydd anoddaf i siarad amdano mewn perthynas. Yn aml gall sylwadau nad ydynt yn gadarnhaol gael eu hystyried fel beirniadaeth bersonol gan arwain at natur amddiffynnol a brifo teimladau. Felly, gadewch i ni ddechrau'r sgwrs. A yw pethau wedi newid i chi yn ystod y pandemig? Mae'r Brifysgol Agored yn gweithio gyda Paired er mwyn galluogi cyplau i ffynnu. Mae cwestiynau a chwisiau dyddiol yn sbarduno sgyrsiau am bopeth o ffantasïau rhywiol i ymdrin â materion rhyw ac agosrwydd mewn perthnasoedd. Cymerwch gip ar yr ap Paired.

Mae pobl yn tueddu i gymharu eu bywydau rhywiol â rhai ffuglennol yn seiliedig ar sïon, gwaith dyfalu a chamwybodaeth mewn diwylliant poblogaidd. Gall cydnabod y ffordd y mae ffactorau allanol yn effeithio ar yr agweddau mwyaf preifat ar ein bywydau ein galluogi i ystyried newidiadau mewn modd synhwyrol. Mae gwybod y gwir am ryw yn bwysig er mwyn osgoi gwneud cymariaethau annheg – dyna pam mae astudiaethau Natsal mor bwysig! Mae adnoddau OpenLearn yn rhoi ffeithiau seiliedig ar dystiolaeth am ryw ym Mhrydain gan ddefnyddio data o'r astudiaeth Natsal ddiwethaf, a gaiff ei chynnal bob deng mlynedd, Rhyw ac agweddau rhywiol ym Mhrydain.


Cyfeiriadau

  1. Astudiaeth Natsal-COVID yw'r arolygon lled-gynrychioliadol mwyaf am ymddygiad rhywiol o dan COVID-19 yn y DU, ac maent ymhlith yr arolygon mwyaf cynhwysfawr yn y byd.

  2. Catherine H. Mercer et al (2021) Impacts of COVID-19 on sexual behaviour in Britain: findings from a large, quasi-representative survey (Natsal-COVID). Sexually Transmitted Infections. 2021; 10.1136/sextrans-2021-055210  

  3. https://www.relate.org.uk/sites/default/files/publications/uploads/relate_eharmony_twwan21_report_final.pdf
  4. Kirstin R Mitchell et al (2022) Initial Impacts of COVID-19 on Sex Life and Relationship Quality in Steady Relationships in Britain: Findings from a Large, Quasi-Representative Survey (Natsal-COVID), Lancet https://papers.ssrn.com/sol3/papers.cfm?abstract_id=3862586
  5. Arafat SMY, Kar SK. Sex During Pandemic: Panic Buying of Sex Toys During COVID-19 Lockdown. Journal of Psychosexual Health. 2021;3(2):175-177. https://www.researchgate.net/publication/352192866_Sex_During_Pandemic_Panic_Buying_of_Sex_Toys_During_COVID-19_Lockdown

 

 
 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?