
Mae'r arddangosfa ar-lein hon yn dangos rhai o'r darnau gwych o waith a gynhyrchwyd gan gyfranogwyr prosiect BG REACH (Trigolion Blaenau Gwent yn Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth, Saesneg – ‘Blaenau Gwent Residents Engaging in Arts, Culture and Heritage’).
Prosiect celfyddydau creadigol yw BG REACH, sy'n cefnogi trigolion Blaenau Gwent i greu celf, cerddoriaeth, ysgrifennu creadigol a ffilm sy'n myfyrio ar hanes cyfoethog a diddorol eu hardal leol. Mae'r arddangosfa hon yn ddathliad o dreftadaeth Blaenau Gwent drwy ddoniau'r bobl sy'n byw yno.
Hefyd ar gael yn Saesneg | Also available in English
Yn y ffilm fer hon, mae aelodau Grŵp Cymunedol Aber-big a thrigolion Llys Glyncoed yng Nglynebwy yn rhannu eu profiadau o gymryd rhan ym mhrosiect BG REACH, ac yn egluro beth mae cymuned a threftadaeth yn ei olygu iddyn nhw.
Defnyddiwch y ddewislen isod i ddysgu mwy am yr hyn y mae hanes Cymoedd Gwent yn ei olygu i'r bobl sy'n byw yno.
Prosiect cydweithredol rhwng Grŵp Cymunedol Aberbîg, Cymdeithas Tai Linc Cymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru yw Blaenau Gwent REACH, a chaiff ei ariannu gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU.


Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.
Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol
Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon