Mae sawl un ohonynt wedi'u hategu gan eiriau'r rhai a wnaeth eu creu am yr hyn y maent yn ei gynrychioli, ac mewn un achos, gan gerdd. Cawsant eu creu gan gyfranogwyr mewn gweithdai celf a gynhaliwyd gan brosiect BG REACH yng Nghanolfan Gymunedol Aberbîg yn ystod gwanwyn 2020.
Collage BG Reach
Mae'r teils unigol sy'n ffurfio'r collage hwn yn cynnwys ymdrech greadigol o'r safon uchaf. Mae 36 o deils i gyd, gan 19 o artistiaid unigol. Ymhlith y deunyddiau a ddefnyddiwyd ganddynt mae papur tusw, defnydd, botymau a llythrennau Sgrabl, lluniau a thoriadau, paent, pensil a siarcol.
Gweld mwy
Modron – paentiad a cherdd
Gan Barbara Candlish
Mae'r paentiad hyfryd hwn a'r gerdd rymus hon yn mynd law yn llaw. Mae'r naill a'r llall yn ymwneud â Modron, ffigwr mamol yn llên gwerin Cymraeg yr Oesoedd Canol. Mae'r portread ohoni yn y paentiad yn drawiadol iawn, gyda'i gwallt hir a'i chlogyn, a'i chleddyf a'i tharian. Mae'r gerdd yn ei chysylltu â'r Silwriaid, llwyth Celtaidd a oedd yn byw yn yr hyn a elwir ym Mlaenau Gwent heddiw pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Gweld mwy
'The Guardian'
Gan Mark Burns
Dyma gollage o Gofeb Glofa'r Chwe Chloch, cofeb 20 metr o uchder i'r 45 o ddynion a fu farw yn nhrychineb Glofa'r Chwe Chloch yn 1960. Cafodd y gofeb ei hun ei datgelu gan Archesgob Caergaint, Rowan Williams, ar 28 Mehefin 2010, hanner can mlynedd yn union ers diwrnod y ffrwydrad.
Gweld mwy
'Save the Canyons'
Gan Emily Clatworthy a Hazel Clatworthy
Mae'r collage trawiadol hwn yn gofnod gweledol o frwydr trigolion i atal Coedwig Tirpentwys, ger Pont-y-pŵl, rhag cael ei throi'n chwarel. Roedd yr ardal, a elwir yn lleol yn y 'Canyons' yn Saesneg, yn bwll glo brig rhwng y 1870au a'r 1960au. Fodd bynnag, dros yr hanner can mlynedd diwethaf, mae wedi'i hadfer gan fyd natur ac mae bellach yn ucheldir llawn coed gyda llyn ar y gwaelod.
Gweld mwy
'Escaping through art'
Gan Raymond Mason
Artist amatur yw Raymond Mason, sy'n byw yn y Coed Duon, rhwng Glynebwy a Chaerffili. Er nad ydynt yn ymddangos felly ar yr olwg gyntaf, mae'r tri darn o waith celf a welir yma yn myfyrio ar Gymoedd Gwent a'r byd ehangach.
Gweld mwy
Lluniau o Flaenau Gwent
Gan Linda Stemp
Cafodd y lluniau hyn o adeiladau hanesyddol ym Mlaenau Gwent eu tynnu gan y ffotograffydd o Lanhiledd, Linda Stemp. Maent yn dangos agweddau ar dreftadaeth y rhanbarth sy'n bwysig iawn iddi. Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â hanes diwydiannol yr ardal.
Gweld mwy
Jim ac Angharad, Six Bells
Gan Angharad Jones
Mae’r paentiad dyfrlliw hwn yn cyflwyno tableaux atgofus o dad a merch yn edrych i lawr ar bwll glo. Mae’r cynffonau yng ngwallt y ferch yn pwysleisio ei hieuenctid ond mae ei chôt a’i het hen ffasiwn yn awgrymu oed yr olygfa. Dros y rheiliau, mae pen y pwll gyda’i olwyn droellog yn codi uwchben y llinell o goed yn y cefndir. Fodd bynnag mae'r dewis o’r prif liwiau brown a llwyd yn gwneud i’r pwll glo ymddangos yn rhan o’r cwm yn hytrach nag ychwanegiad estron.
Gweld mwy
Mwy o gelf
Detholiad o waith celf arall gan gyfranogwyr BG REACH.
Gweld mwy
Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.
Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol
Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon