Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Straeon digidol – Blaenau Gwent REACH

Diweddarwyd Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2021

Mae'r ffilmiau byr hyn yn cofnodi atgofion rhai o denantiaid cynllun gofal ychwanegol Llyn Glyncoed, ar gyrion Glynebwy, o fywyd ym Mlaenau Gwent. Cafodd y preswylwyr eu cyfweld gan ddisgyblion Blwyddyn 9 o Gymuned Ddysgu Ebbw Fawr, a wnaeth gofnodi eu hatgofion yn ystod gwanwyn 2020 a’u gosod ar gefndir o luniau.

Archwilio:

Mike Pescod, ‘My father’


Dychwelodd tad Mike o’r Ail Ryfel Byd yn 1946, pan oedd Mike yn 8 oed. Roedd wedi bod i ffwrdd ers cyhyd fel nad oedd Mike yn ei gofio. Mae’r stori hon yn dangos effaith y gwrthdaro hwnnw ar genhedlaeth o blant a gollodd allan ar flynyddoedd o gael cwmni tad. Mae’r lluniau’n dangos llaw plentyn ar law oedolyn, ac mae’r amlinelliad o dad a mab gyda’i gilydd yn arbennig o deimladwy.

Roedd mam Mike yn gweithio mewn ffatri llenwi arfau rhyfel yng Nglascoed, ger Pont-y-pŵl, atgof amlwg o’r newidiadau a welwyd ym mywydau menywod yn ne Cymru a’r tu hwnt yn sgil y ddau ryfel byd. Mae elfen o’r ‘Fam Gymreig’ nodweddiadol yn perthyn i atgof Mike o’i fam; y matriarch sy’n gwneud penderfyniadau dros y teulu. O’r hyn a ddywed Mike yma, diflasodd ei fam ar weld ei dad yn cicio’i sodlau o amgylch y tŷ ar ôl y rhyfel, a bu’n rhan allweddol o’i benderfyniad i dderbyn swydd ym Marics y Magnelwyr Brenhinol yn Llundain. Mae ebychiad Mike, ‘Oh my god, what a place’ yn dweud cyfrolau am ba mor estron oedd prifddinas Lloegr i fachgen a fagwyd yng nghymoedd Blaenau Gwent.

Hazel Robinson, ‘Looking back’


Mae atgofion Hazel o’i phlentyndod ym Mrynithel yn ymddangos yn ddelfrydol, ac yn wahanol iawn i’r profiadau o'r plentyndod mwy rheoledig sy’n gyffredin heddiw. Mae’r lluniau sy’n ategu stori Hazel yn dwyn atgofion melys o’r rhyddid a oedd ganddi yng nghanol prydferthwch yr ardal. Mae’r ffaith bod ei modryb yn byw y drws nesaf iddi yn dangos pa mor glos oedd cymunedau Blaenau Gwent, yn enwedig cyn dirywiad diwydiannol y 1980au. Roedd tref Abertyleri, y mae Hazel yn cyfeirio ati, yn un o ganolfannau cloddio glo y rhanbarth, a byddai’r rheilffordd y bu ei thad yn gweithio arni wedi’i defnyddio’n bennaf i gludo glo yn hytrach na theithwyr. Er bod ei brawd a’i chwaer wedi parhau â’u haddysg, bu’n rhaid i Hazel adael yr ysgol yn 14 oed er mwyn ennill arian i’r teulu. Mae hyn yn peri syndod heddiw, ond ni chafodd yr oedran gadael ysgol ei godi i 16 tan 1972.

Mae Hazel yn disgrifio gwyliau i Plymouth, lle y byddai pobl yn tyrru o amgylch ei theulu, yn rhyfeddu at eu hacenion Cymreig. Mae acen yn aml yn fathodyn sy’n nodweddu pwy ydych ac o ble rydych yn dod. Daw hynny’n amlwg wrth i Hazel hel atgofion am ei thad, a ymfudodd i dde Cymru o Plymouth yn y 1920au ond na gollodd fyth ei acen. Oherwydd y ffordd roedd yn siarad, yn hytrach nag o ble roedd yn dod, y dywed Hazel ‘he wasn’t as Welsh as me’.

Hazel Robinson, ‘Working for the postal service’


Yn y ffilm hon, mae Hazel yn disgrifio’r amser a dreuliodd yn y lluoedd arfog, yn gweithio yn un o ddepos post y fyddin yng Nghaerefrog. Roedd yn un o 640,000 o fenywod yn y gwasanaeth milwrol erbyn camau olaf yr Ail Ryfel Byd. Erbyn hynny, roedd 80% o fenywod o oedran gweithio mewn gwaith â thâl, gyda’r rhan fwyaf o’r swyddi hynny yn gysylltiedig â’r rhyfel mewn rhyw ffordd. Fodd bynnag, ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, anogodd y Llywodraeth a’r undebau llafur (a reolwyd gan ddynion) y menywod hyn i ildio eu lle i’r milwyr a’r morwyr a oedd yn dychwelyd, a throi’n ôl at rolau domestig traddodiadol.

Mae Hazel yn cofio ei chyfnod yng Nghaerefrog fel profiad cymdeithasol a phleserus iawn, ac mae’r lluniau a ddewiswyd i ategu’r rhan honno o’i stori yn dangos pa mor agos roedd y menywod a oedd yn gweithio mewn cyfleusterau o’r fath yn cydweithio. Nid oes dim i awgrymu bod Hazel yn teimlo’n alltud fel Cymraes yn Swydd Efrog. Roedd y rhyfel yn dueddol o feithrin ymdeimlad o Brydeindod yn wyneb adfyd, gan olygu nad oedd hunaniaethau Cymreig a Seisnig yn ymddangos mor bwysig am gyfnod.

Fred Pettican, ‘He shoots, he scores’


Yma, mae Fred yn dwyn un o’i atgofion mwyaf balch i gof. Tua hanner can mlynedd ynghynt, chwaraeodd gêm o bêl-droed rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Fictoria (ardal o Gasnewydd, tua 20 milltir i’r de o Lynebwy). Cafodd ei gic gornel ei nodio i mewn gan chwaraewr arall, a fu, yn rhyfeddol ddigon, yn byw yn Llys Glyncoed yn ddiweddarach ar yr un pryd â Fred. Mae’r ffaith bod eu llwybrau wedi croesi eto bum degawd yn ddiweddarach yn dangos yr ymlyniad cryf y mae llawer o drigolion cymoedd Gwent yn ei deimlo at y rhanbarth, gan dreulio y rhan fwyaf o’u bywydau yn yr un ardal yn aml.

Roedd Fred wedi cadw’r bêl-droed o’r gêm honno, a dangosodd y bêl honno i’w hen gyd-chwaraewr pan welsant ei gilydd eto flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd gwrthrychau fel pwyntiau ffocws i’r cof. Maent yn gofroddion ffisegol o’n hanesion ein hunain; y bachau lle rydym yn hongian y penodau a’r digwyddiadau sy’n llunio straeon ein bywyd.

Norma Williams, ‘The right fit’


Er gwaethaf ei hawydd i weithio mewn swyddfa ar ôl gadael yr ysgol, aeth Norma i weithio mewn siop. Ond nid siop gyffredin mohoni; siop adrannol gydweithredol ydoedd, lle roedd safonau’n uchel ac roedd disgwyl i ymgeiswyr lwyddo mewn arholiad cyn cael eu cyflogi. Mae Norma, a fu’n gweithio yn yr adran esgidiau, yn cofio’r ‘need to have a thick skin’. Roedd hynny'n sicr yn wir am rai o’r cwsmeriaid y mae’n cyfeirio atynt.

Mae Norma hefyd yn cofio y bu’n rhaid iddi roi’r gorau i weithio ar ôl priodi oherwydd y ‘gwaharddiad priodasol’, lle nad oedd gan fenywod priod yr hawl i weithio. Yn lle hynny, roedd disgwyl iddynt gael plant a bod yn ddibynnol yn ariannol ar ei gwŷr. Arfer gyffredin, yn hytrach na chyfraith, oedd y gwaharddiad priodasol; mewn gwirionedd, roedd yn mynd yn groes i Ddeddf Gwahardd ar Sail Rhyw (Dileu) 1919. Mae’r ffaith bod y gyfraith hon braidd byth yn cael ei gorfodi yn dweud cyfrolau am agweddau ar y pryd. Mae Norma hyd yn oed yn cydymdeimlo â safbwyntiau o’r fath, gan egluro bod angen y gwaith ar fenywod iau (sengl) yn fwy nag yr oedd ei angen arni hi.

Norma Williams, ‘She’s in fashion’


Yma, mae Nora yn cofio rhai o arferion ffasiwn ei harddegau yn ystod y 1950au. Bydd y dadleuon a gafodd gyda’i mam ynglŷn â ph’un a oedd ei dillad yn dangos gormod o groen yn gyfarwydd i sawl mam a merch heddiw, ac mae'r syniad bod jîns yn rhy gyffredin yn dweud cyfrolau am y syniad o barchusrwydd a phwysigrwydd argraffiadau ym Mlaenau Gwent wedi’r rhyfel.

Mae atgofion Norma hefyd yn adlewyrchu’r newidiadau ehangach a welwyd yn ystod y blynyddoedd wedi’r rhyfel. Daeth jîns yn arwydd o ddiwylliant ieuenctid ar ôl i James Dean eu gwisgo yn y ffilm eiconig Rebel without a Cause (1955), ac roedd esgidiau pigfain yn gysylltiedig â cherddoriaeth roc a rôl. Hyd at yr Ail Ryfel Byd, bu mynychu’r capel yn rhan hanfodol o fywyd cymunedol ac yn un o gonglfeini Cymreictod yng nghymoedd de Cymru. Fodd bynnag, yn sgil y cynnydd ym mhoblogrwydd cerddoriaeth a ffilm Americanaidd yn y 1950au, gwelwyd llai o bobl ifanc yn mynychu’r capel. Roedd llawer o rieni’n ystyried hyn yn her i draddodiadau a gwerthoedd sylfaenol eu cymunedau lleol.


BG REACH exhibition logo / Logo arddangosfa BG REACH

Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.

Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol

Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?