Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ysgrifennu creadigol – Blaenau Gwent REACH

Diweddarwyd Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2021

Mae'r cerddi, y deialogau a'r atgofion hyn yn dangos teimladau rhai o drigolion Blaenau Gwent am hanes yr ardal a'u profiadau o fyw yno. Cawsant eu hysgrifennu gan gyfranogwyr mewn gweithdai ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd gan brosiect BG REACH yng Nghanolfan Gymunedol Aberbîg yn ystod gwanwyn 2020.


Coluriad o baent oren ocr.

'Mar neu O'r Blaen (Then and Now)'

Gan Barbara Candlish

Mae cerdd fer Babara ‘Mar neu O'r Blaen’, wedi'i hysbrydoli gan brosiect ‘Colours from the Mines’ yn Nhŷ Ebbw, Chwe Chloch.

Darllen mwy


Tŵr o bapur tŷ bach.

'Pandemic 2020, Coronavirus 19 reminiscent'

Gan Barbara Candlish

Yn ‘Pandemic 2020’, mae Barbara yn rhoi disgrifiad doniol yn aml o'i phrofiadau o COVID-19. Mae ei disgrifiadau o'r cyfyngiadau a osodwyd ar bobl Blaenau Gwent yn sicr yn bethau y dylai pob un ohonom eu hystyried wrth ateb heriau annisgwyl bywyd.

Darllen mwy


Pedol fetel lliw arian.

'Silver Girl'

Gan Katharine Marquis

Mae darn byr o ryddiaith Katharine, ‘Silver Girl’, yn ein tywys i galon treftadaeth amaethyddol y Cwm. Wedi'i ysgrifennu ar ffurf sgwrs, cawn gipolwg ingol ar hanes ceffyl fferm cloff, Silver Girl, a'r bachgen amddifad, Jack, sy'n gofalu amdani, yn rhy dda.

Darllen mwy


Peg dillad pren nodweddiadol.

'The Welsh Miner’s Wife'

Gan Katharine Marquis

Fel un o gonglfeini'r Chwyldro Diwydiannol, roedd Cymru yn enwog am ei phyllau glo yng Nghwm Rhondda, Cymoedd de Cymru a Meysydd Glo de Cymru. Yn y gerdd delynegol fer hon gan Katharine, mae i'r llinell agoriadol neges gyfarwydd iawn!

Darllen mwy


Darlun o ddau ditw tomos las ar gangen.

'Bathed in Birdsong'

Gan Susan Davies

Mae'r gerdd delynegol fer hon gan Susan yn sicr yn gwneud cyfiawnder â'i theitl trosiadol a chyflythrennog, sy'n cyfleu'n berffaith rai o sgil effeithiau mwy cadarnhaol COVID-19.

Darllen mwy


Dymi glas babi.

'Bedtime'

Gan Lacey Smith

Mae'r darlun hyfryd hwn o amser gwely yn nhŷ Lacey yn gyflawniad gwych – wedi'i ysgrifennu'n fyrfyfyr yn ystod un o'r sesiynau addysgu yng nghanolfan gymunedol Aberbîg.

Darllen mwy


Braslun â phensil gan Stephen Davies yn dangos tai teras o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

'My Lovely Valley'

Gan Stephen Davies

Dyma gerdd deimladwy a chariadus i Gwmtyleri, a fu unwaith yn bentref annibynnol â chryn weithgarwch glofaol o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond sydd bellach yn un o faestrefi gogleddol Abertyleri.

Darllen mwy


Braslun â phensil gan Stephen Davies yn dangos pen pwll Cwmtyleri.

'Remembering Cwmtillery'

Gan Stephen Davies

Gyda brasluniau cysylltiedig, dyma atgofion Stephen o ymweld â'i fam-gu yng Nghwmtyleri, i'r gogledd o Abertyleri, yn y 1960au. Bryd hynny, roedd Pwll Glo Cwmtyleri yn destun pryder cynyddol; agorwyd y pwll ar ddiwedd y 1840au, a chafodd ei gau'n derfynol yn 1982. Bu tad a thad-cu Stephen yn gweithio yno.

Darllen mwy


Tocyn trên traddodiadol y Rheilffyrdd Prydeinig ag ymylon oren.

'Back on Track'

Gan Hedley McCarthy

Dyma gofnod hyfryd o deithiau trên Hedley gyda chysylltiad uniongyrchol rhwng plentyndod ac oedolaeth.

Darllen mwy


BG REACH exhibition logo / Logo arddangosfa BG REACH

Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.

Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol

Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?