Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Mae Egwyddorion ac arferion addysg heddwch yn archwilio sut allai heddwch gael ei wreiddio mewn ymarfer bob dydd yn yr ystafell ddosbarth. Gellir ei ddefnyddio fel astudiaeth unigol neu fel sail i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus gyda grŵp mwy. Mae’n cyflwyno haenau o addysg heddwch ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gynnwys heddwch mewnol a llesiant; heddwch rhyngwladol drwy berthnasoedd positif ac agweddau adeiladol tuag at wrthdaro; a meddwl yn feirniadol am y byd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Cyflwyna’r cwrs ddamcaniaeth ac ymarfer addysg heddwch ar draws y DU a thu hwnt. Yn ogystal â syniadau syml, ymarferol i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, mae’n cynnig cysylltiadau i ddeunyddiau ar gyfer astudiaethau pellach a chynllunio cwricwlwm. Bydd y cwrs hefyd yn berthnasol i bobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a lleoliadau cymunedol.


Trawsgrifiad


Byddai’r Brifysgol Agored yn wirioneddol werthfawrogi ychydig funudau o’ch amser er mwyn dweud wrthym ni amdanoch chi eich hun a’ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn i chi ddechrau, yn ein harolwg ar ddechrau’r cwrs. Unwaith rydych chi’n cwblhau’r cwrs byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich adborth a’ch awgrymiadau ar gyfer gwelliant yn y dyfodol, yn ein harolwg ar ddiwedd y cwrs. Bydd cymryd rhan yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i eraill.


Cafodd y cwrs ei gynhyrchu mewn cydweithrediad gyda’r Crynwyr ym Mhrydain a Cymru Global.

Logo Crynwyr ym Mhrydain Logo Cymru Global


Gall unrhyw un sy’n dymuno darparu tystiolaeth o’u hymrestriadau ar y cwrs hwn wneud hynny drwy rannu eu Cofnod Gweithgaredd ar eu Proffil OpenLearn, sydd ar gael cyn cwblhau’r cwrs ac ennill y Datganiad Cyfranogiad.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • disgrifio cysyniadau sy'n sail i addysg heddwch
  • deall dulliau addysgeg o feithrin heddwch yn yr ystafell ddosbarth
  • bod yn ymwybodol o'r cymwyseddau y gellir eu datblygu drwy arferion addysg heddychlon gyda phlant a phobl ifanc
  • dechrau datblygu ymarfer hunanfyfyriol fel addysgwr heddwch myfyriol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2024

Wedi'i ddiweddaru: 17/12/2024

Hepgor Graddau y Cwrs

Graddau y Cwrs