Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad byr i faes gweithio mewn tîm. Gallwch hefyd weld y cyrsiau eraill yn y casgliad hwn: Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr ac Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn.

Mae gwaith tîm yn rhan hollbwysig o’r gwaith o ddatblygu a chynnal corff llywodraethu llwyddiannus. Mae’r cwrs hwn yn gyfle i chi fyfyrio ar eich profiadau eich hun o weithio mewn tîm, ystyried enghreifftiau o waith tîm mewn ysgolion, a myfyrio ar bwysigrwydd gweithio mewn tîm ac arweinyddiaeth wrth adeiladu timau llwyddiannus. Yn ystod y cwrs, byddwch yn archwilio perthnasedd gweithio mewn tîm i’ch profiad fel llywodraethwr a’i swyddogaeth yn eich corff llywodraethu eich hun.

Mae’r Cwrs Agored Bathodyn hwn yn rhan o gasgliad o adnoddau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol yng Nghymru. Datblygwyd y casgliad gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru gyda’r nod o ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a myfyrdodau ychwanegol a all eich helpu yn eich rôl fel llywodraethwr.

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • deall pwysigrwydd timau mewn cyd-destun addysg
  • deall pwysigrwydd gweithio mewn 'partneriaeth' ag eraill mewn cyd-destun addysg
  • cymhwyso'r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu at eich rôl a'ch gwaith fel llywodraethwr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/09/2020

Wedi'i ddiweddaru: 25/09/2020

Hepgor Graddau y Cwrs