Bydd Roiyah Saltus yn ychwanegu at hyn gan edrych yn benodol ar anghydraddoldebau hiliol mewn iechyd yng Nghymru ac yn cyfeirio at ei hymchwil diweddar ar COVID-19 gyda chymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Ynghylch y cyflwynwyr
Mae Dr Jenny Douglas yn uwch ddarlithydd mewn hybu iechyd yn y Brifysgol Agored. Mae gan Dr Douglas PhD mewn Astudiaethau Menywod ac mae'n frwd ynghylch iechyd a llesiant menywod Du. Mae ei hymchwil yn amrywiol ac eang, yn cwmpasu 30 mlynedd ac yn mynd i’r afael â materion megis hil, rhywedd ac ethnigrwydd. Y thema allweddol sy'n uno ei hymchwil a'i gweithredu yw rhyngblethedd - archwilio sut mae 'hil', dosbarth a rhywedd yn effeithio agweddau penodol o iechyd menywod Affricanaidd-Caribïaidd.
Mae Dr Roiyah Saltus yn gymrawd ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Gofal Ym Mhrifysgol De Cymru. Ers ymuno â Phrifysgol De Cymru yn 2002, mae wedi arwain timau o ymchwilwyr a chydweithio â chydweithwyr ar draws y DU ar ystod eang o astudiaethau a gweithgareddau addysgol, ble mae gwrando ar leisiau grwpiau poblogaeth pobl sydd ar yr ymylon, sy'n ymfudwyr ac o leiafrifoedd ethnig yn agwedd allweddol. Wedi ei hyfforddi fel cymdeithasegydd, mae ymchwil Dr Saltus yn ymgorffori theori hil, ffeministiaeth, theori datblygu cymunedol, a phersbectifau beirniadol mewn iechyd, polisi ac ymarfer cymdeithasol.
Ynghylch y cyflwyniadau
Cynhaliwyd y cyflwyniadau fel rhan o Anghydraddoldebau ac Undodau: Effaith Covid yng Nghymru, rhan o gyfres o ddigwyddiadau SgyrsiauAgored sy'n cael eu cynnal gan Brifysgol Agored Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Mercher 4 Mai 2022.
Gweler hefyd

Mae 'Covid Chronicles from the Margins' yn archwilio’r ffordd y mae mudwyr dan orfodaeth ledled y byd yn ymateb i’r pandemig drwy ymwrthod â thriniaeth ymylol mewn ffordd greadigol a medrus. Mae’n manteisio ar bosibilrwydd creadigol offer ffonau clyfar ar gyfer ymchwil ethnograffig digidol. Mae mudwyr yn rhannu eu profiadau o'r pandemig trwy gerddi, caneuon, cerddoriaeth, lluniau, fideos byr, tystiolaethau ysgrifenedig, dyddiaduron, gwaith celf a blogiau.
Dysgwch fwy gyda OpenLearn
Cyfres o fideos yw Sgwrs Agored, lle bydd academyddion y Brifysgol Agored yn rhannu eu profiad a'u hangerdd dros bwnc neu destun o'u dewis.
Gwylio ragor o fideos Sgwrs Agored
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon