Mae dinasyddiaeth weithgar yn golygu'r arfer o bobl yn cymryd rhan a chael gwybod am yr hyn sy'n digwydd yn eu cymunedau ac ar draws y wlad. Mae hefyd yn golygu bod pobl yn cael eu grymuso i ddefnyddio eu lleisiau i geisio sicrhau newid ac i lunio'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Yng Nghymru, mae hynny'n cynnwys penderfyniadau a wneir yn y Senedd. Ers creu'r Senedd, mae mwy a mwy o bwerau wedi'u trosglwyddo o Lywodraeth y DU, wedi'i lleoli yn San Steffan, i'r Senedd, ac i Lywodraeth Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd. Yr enw ar y broses hon yw datganoli.
Wrth i'r Senedd dyfu mewn oedran a chyfrifoldeb, ac wrth i Lywodraeth Cymru gymryd mwy o bŵer, felly hefyd mae bywyd dinesig Cymru wedi datblygu. Mae hyn yn golygu bod mwy o gyfleoedd bellach i bobl gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, ac i'w llunio, ac, yn eu tro, dod yn ddinasyddion gweithgar.
Mae gan wleidyddion, cyrff y llywodraeth, a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda nhw rôl i'w chwarae o ran galluogi newid. Mae gan y cyfryngau rôl bwysig o ran dylanwadu arno a rhoi gwybod i bobl am wleidyddiaeth a materion cyfoes. Mae addysg hefyd yn hanfodol er mwyn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl i'w wneud yn dda.
Dyna pam mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi dod â'r casgliad hwn o adnoddau ar-lein am ddim ynghyd i'ch helpu i feddwl yn feirniadol am gymdeithas a gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac i'ch helpu i ddefnyddio'ch llais fel dinesydd.
Mae'r casgliad yma hefyd ar gael yn Saesneg. | This collection is also available in English.
Adnoddau dysgu ar-lein am ddim
Cyrsiau, erthyglau a fideos ar gael ar OpenLearn.
-
6 ffordd o sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yng Nghymru
Un o egwyddorion sylfaenol democratiaeth yw y dylai llais dinasyddion cael ei glywed. Mae’r un peth yn wir am ddemocratiaeth Cymru, sydd bellach dros ddau ddegawd oed.
Erthygl
Lefel: 1 Rhagarweiniol
-
Ysgogwyr Newid
Oes materion yn bwysig i chi, yn effeithio arnoch chi, ar eich cymuned neu ar eich teulu? Mae camau bach yn arwain at newidiadau mawr.
Gweithgaredd
Lefel: 1 Rhagarweiniol
-
Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol
Ac yntau wedi’i ysgrifennu mewn cyfnod heriol - yn amgylcheddol, yn economaidd, yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac o ran iechyd, mae ‘Cyflwyniad i wneud newid gwleidyddol a chymdeithasol’ yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer rhai o’r sgiliau dinasyddiaeth a’r wybodaeth wleidyddol allweddol sydd eu hangen arnoch i ymyrryd yn y byd wrth iddo newid o’ch ...
Cwrs am ddim
10 awr
Lefel: 1 Rhagarweiniol
-
Ti, Fi a Dyfodol Cymru
Dysgwch sut y gallwch chi chwarae rhan weithredol yn y broses o greu ein Cymru ddelfrydol.
Gweithgaredd
Lefel: 1 Rhagarweiniol
-
Newyddion ffug yng Nghymru
Mae’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei hadrodd, ei hegluro a’i rhannu yng Nghymru, yn enwedig wrth i’r Senedd ennill rhagor o bŵer, yn tynnu sylw at faterion pwysig ynghylch yr effeithiau all ‘newyddion ffug’ eu cael ar gymdeithas ddemocrataidd.
Fideo
Lefel: 1 Rhagarweiniol
-
Sut i ddarllen y newyddion
Pum awgrym er mwyn eich helpu i adnabod ‘newyddion ffug’ a meddwl yn feirniadol am ein cymdeithas sy'n orlawn o gyfryngau.
Erthygl
Lefel: 1 Rhagarweiniol
-
Deall datganoli yng Nghymru
Mae'r cwrs am ddim hwn yn dilyn y ffordd y mae setliad datganoli Cymru wedi cael ei drawsnewid yn yr 20 mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli yn 1997. Byddwch yn ystyried y ffordd y daeth Cynulliad â chefnogaeth mwyafrif bach iawn o'r cyhoedd a phwerau deddfu cyfyngedig yn Senedd â'r pŵer i osod trethi. Byddwch yn archwilio rhai o'r heriau ...
Cwrs am ddim
12 awr
Lefel: 1 Rhagarweiniol
Pori drwy ragor o adnoddau
-
Sut mae penodi Prif Weinidog newydd i Gymru
Trosolwg o’r hyn sy’n digwydd pan ddaw’n amser penodi Prif Weinidog newydd Cymru, sy’n arwain Llywodraeth Cymru.
-
Dyddiadur Barwnes am Oes Newydd
Yn 2024, Carmen Smith oedd y person ieuengaf erioed i gael ei phenodi'n farwnes am oes yn Nhŷ'r Arglwyddi, fel y Farwnes Smith o Lanfaes. Yma, mae hi'n sôn am sut beth oedd cael ei henwebu a chymryd ei sedd wedyn. Sut broses oedd hi? Pwy wnaeth hi gyfarfod ar hyd y ffordd? A beth mae hi'n gobeithio ei gyflawni fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi?
-
Meithrin eich Sgiliau Meddwl yn Feirniadol
Beth allwch chi ei wneud i feithrin eich sgiliau meddwl yn feirniadol? Mae Mark Pinder a Paul-François Tremlett yn esbonio ambell beth i'w cofio wrth asesu ymresymiadau pobl eraill, ac wrth gynnig eich ymresymiadau eich hun hefyd.
-
Gwirfoddoli yn y sector addysg
Ydych chi wedi meddwl erioed am wirfoddoli ym myd addysg? Darllenwch storïau gan staff y Brifysgol Agored ynghylch pam maen nhw’n gwirfoddoli, beth mae’n ei olygu, a sut y gall pobl eraill gymryd rhan.
-
Gwirfoddoli yn y gymuned
Gall gwirfoddoli yn y gymuned gael effaith fawr. Darllenwch storïau gan staff y Brifysgol Agored ynghylch pam maen nhw’n gwirfoddoli, beth mae’n ei olygu, a sut y gall pobl eraill gymryd rhan.
-
Gwirfoddoli gyda ffocws personol neu broffesiynol
Ydych chi wedi ystyried defnyddio eich sgiliau proffesiynol neu eich profiadau personol i wirfoddoli a datblygu eich sgiliau ymhellach? Darllenwch storïau gan staff y Brifysgol Agored ynghylch pam maen nhw’n gwirfoddoli, beth mae’n ei olygu, a sut y gall pobl eraill gymryd rhan.
-
Hanes: Newyddion Ffug, Damcaniaethau Cynllwyn A Twyllwybodaeth
Mae newyddion ffug, damcaniaethau cynllwyn a thwyllwybodaeth yn nodweddion peryglus o’r gymdeithas cyfoes.
-
Rhyddhau amrywiaeth y gorffennol
Yr hanesydd Norena Shopland sydd yn yn egluro pam bod gennym ddiffyg gwybodaeth a dealltwriaeth hanesyddol wrth adrodd straeon am amrywiaeth, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i newid hyn.
-
Ystadegau rhyw ar gyfer poblogaeth Prydain
Mae llawer o fythau a chamddealltwriaethau am ryw a gall fod yn anodd canfod y gwirionedd. Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn, sy'n hawdd ei ddefnyddio, yn rhoi mynediad i ddata cadarn a gasglwyd gan Natsal-3, sef arolwg o filoedd o oedolion ledled Prydain.
Ymchwil
Lleisiau'r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau'n Gweithio dros Gymru
Adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng NghymruComisiynwyd yr ymchwil hon gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA), sy'n cydweithio â dinasyddion Cymru i ystyried sut y gellir gwella mynediad at y cyfryngau, newyddion a gwybodaeth yng Nghymru, a dealltwriaeth ohonynt, yn enwedig yn oes y 'newyddion ffug'.
Mwy
Mae cyfryngau Cymru yn wynebu argyfwng: mae toriadau mewn cyllid, cau gwasanaethau newyddion, bygythiadau i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a llai o gyfleoedd i newyddiadurwyr weithio yng Nghymru ers rhai blynyddoedd wedi bod yn arwyddion o ddemocratiaeth gyda sgwâr cyhoeddus sy’n lleihau.
Er mwyn creu atebion i'r argyfwng hwn, yn ystod haf 2022 comisiynodd yr IWA a'r Brifysgol Agored yng Nghymru Banel Dinasyddion o bymtheg o bobl o bob cefndir yng Nghymru i drafod y materion hyn yn fanwl ac i lunio argymhellion ar gyfer atebion. Canfu’r grŵp y dylid gweithredu mesurau a fyddai’n caniatáu i Gymru gefnogi ei chyfryngau’n fwy effeithiol, a rhoi buddiannau dinasyddion a chymunedau yn ganolog iddynt.
Ysgogwyr Newid: Gwella dealltwriaeth pobl ifanc o greu newid gwleidyddol a chymdeithasol yng Nghymru
Dr Donna Smith a Dr Jenny Hewitt, Y Brifysgol AgoredMae 'Ysgogwyr Newid' yn brosiect Heriau Cymdeithasol Agored uchelgeisiol yn y
Brifysgol Agored, sydd â'r nod o wella dealltwriaeth wleidyddol pobl ifanc 16-24
oed yn y DU, drwy ddatblygu adnodd(au) sy'n eu helpu i ddeall yn well sut i fod
yn ddinasyddion gweithgar.
Mwy
Gan ganolbwyntio i ddechrau ar Gymru a phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru, mae’r prosiect Ysgogwyr Newid wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau ymchwil, fel arolygon ar-lein a grwpiau ffocws, i gofnodi sut mae pobl ifanc yn teimlo a beth maen nhw’n ei wybod am sefydliadau gwleidyddol y DU a newid gwleidyddol chymdeithasol, a’r math o adnodd(au) sydd eu hangen arnynt i wella eu dealltwriaeth.
Bydd y prosiect hwn yn helpu llunwyr polisi, addysgwyr a sefydliadau ieuenctid i ddysgu am ffyrdd cost-effeithiol o gynyddu dealltwriaeth a chyfranogiad mewn gwleidyddiaeth pobl ifanc, gan alluogi gwneud penderfyniadau mwy cynrychioliadol. Yn fwy cyffredinol, bydd y prosiect yn galluogi pobl ifanc i ddeall yn well sut y gallant ddod yn ddinasyddion gweithgar.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu prif ganfyddiadau’r ymchwil hyd yma, ac mae’n rhan bwysig o weithgarwch dinasyddiaeth weithredol y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan weithio gyda sefydliadau partner yng Nghymru i ddeall barn, dealltwriaeth wleidyddol ac anghenion pobl ifanc Cymru
Dolenni defnyddiol
Adnoddau a gwybodaeth gan sefydliadau eraill.
-
Ymchwil y Senedd
Gwybodaeth ddiduedd am y pynciau diweddaraf sy'n cael eu hystyried yn Senedd Cymru.
-
Sefydliad Materion Cymreig
Mae'r SMC yn felin drafod annibynnol. Gallwch ddarllen am y meddylfryd gwleidyddol diweddaraf yng Nghymru ac ymuno â thrafodaethau a dadleuon.
-
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
CGGC yw'r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru, gallwch ddod o hyd i lawer o adnoddau defnyddiol ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru.
Pori drwy ragor o ddolenni
Dysgwch beth sy'n digwydd yn y Senedd a ffyrdd y gallwch gymryd rhan gan gynnwys ymgynghoriadau agored a deisebau.
Llywodraeth Cymru – Ymgynghoriadau
Dewch o hyd i ymgynghoriadau agored ar wefan Llywodraeth Cymru y gallwch ymateb iddynt.
Llywodraeth Cymru – Penodiadau cyhoeddus
Mae Penodiadau cyhoeddus ar gyfer aelodau pwyllgorau sy'n arwain ac yn gwneud penderfyniadau ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall unrhyw un wneud cais am benodiad cyhoeddus.
Sefydliad Bevan
Melin drafod annibynnol a ffurfiwyd i gryfhau polisi cyhoeddus ar ôl datganoli. Gallwch ddod o hyd i ddadansoddiadau ac adroddiadau manwl ar y materion mawr sy'n wynebu Cymru.
TheyWorkForYou
Gwasanaeth rhad ac am ddim sy'n cymryd data agored gan Senedd y DU ac yn ei gyflwyno mewn ffordd hawdd ei ddeall, hawdd ei ddilyn fel system rybuddio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am weithgarwch eich AS.
Full Fact
Sefydliad gwirio ffeithiau annibynnol a all helpu i gadarnhau dilysrwydd darllediadau newyddion a straeon cyfryngau cymdeithasol.
Snopes.com
Ffynhonnell gyfeirio ddefnyddiol ar gyfer ymchwilio i chwedlau trefol byd-eang, gwerin, mythau, sibrydion, a chamwybodaeth.
Rhagor o gasgliadau OpenLearn
-
Hwb OpenLearn Cymru
Dysgu gydol oes, ar gyfer gwaith, am ddim. OpenLearn Cymru. Cartref dysgu dwyieithog am ddim yng Nghymru.
-
Hwb Barod ar gyfer Prifysgol
Casgliad o adnoddau o bob un o brifysgolion Cymru i'ch helpu i ddechrau gydag addysg uwch.
-
Casgliad llesiant a iechyd meddwl
Yn y casgliad Iechyd Meddwl a Lles (Cymru), mae hwb o adnoddau dwyieithog, rhad ac am ddim, sydd yn ceisio hybu lles cadarnhaol a chefnogi iechyd meddwl da.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon