Mae hunanofal yn gydsyniad sydd wedi bod yn ennill momentwm pellach dros y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae'n derm sydd wedi ennill ystyr newydd yn 2020; blwyddyn lle mae pandemig COVID-19 wedi troi sawl agwedd ar ein bywydau wyneb i waered, gan amharu ar ein ffordd o fyw a'n ffordd o weithio bob dydd, gan effeithio ar y ffordd rydym yn edrych ar y dyfodol hefyd. Ar y cyd, mae'r amgylchiadau hyn wedi dod â set unigryw o heriau i'n hiechyd meddwl a'n llesiant.
Un o'r ffyrdd gorau o ddechrau meddwl am hunanofal yw meddwl am eiriau'n llythrennol, oherwydd mae hunanofal yn ymwneud â meddwl a gofalu am yr ‘hunan’ yn ei hanfod – hynny yw geiriau'n gofalu amdanoch chi! P'un a ydych yn ymwybodol ohono ai peidio, rydych eisoes yn cyflawni amrywiaeth o arferion hunanofal sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu eich iechyd corfforol. Er enghraifft, un o'r arferion hunanofal mwyaf cyffredin y dylai pob un ohonom ei wneud yw brwsio ein dannedd ddwywaith y dydd er mwyn helpu i atal pydredd dannedd. O ran iechyd meddwl, mae'n derm a ddeilliodd yn wreiddiol o lenyddiaeth academaidd mewn perthynas â gweithwyr cymdeithasol, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio mewn amgylcheddau lle roeddent yn cael eu hamlygu i waith anodd yn emosiynol. Yma, cafodd ei defnyddio i annog y gweithwyr hyn i ddatblygu arferion a fyddai'n eu helpu i ddiogelu eu hiechyd meddwl a'u llesiant, gan eu galluogi i osgoi gorludded emosiynol a chwythu plwc. Dros amser, mae'r wybodaeth a gafwyd o'r proffesiynau hyn – ynghyd â newidiadau ehangach yn ein dealltwriaeth o salwch meddwl – wedi golygu bod arferion hunanofal wedi cael eu cydnabod yn eang fel rhai sy'n hanfodol i bob un ohonom, gan helpu i'n diogelu rhag salwch meddwl.
Ond beth yn union yw ystyr hunanofal a sut olwg sydd arno yn ymarferol? Er y gall hyn ymddangos yn amlwg ar gyfer cynnal iechyd meddwl, mae'n rhywbeth y gall pob un ohonom fod yn dueddol o anghofio ei wneud, yn enwedig wrth i ni frwydro i ymdopi â newidiadau ac ansicrwydd bywyd, gan gynnwys cyfrifoldebau gofalu neu ofynion gwaith sy'n golygu mai ychydig o amser sydd ar ôl i ni'n hunain.
Mae gweithgareddau hunanofal yn ein galluogi i neilltuo amser yn ein trefn arferol i feithrin a chysuro ein hunain, gan ddarparu lle i fyfyrio ar ein meddyliau ein hunain, a bydd y rhain i gyd yn ein galluogi i gynnal ymdeimlad o gydbwysedd a fydd yn sicrhau ein bod yn aros yn ddigon iach i ofalu am bobl eraill. Neu, mewn geiriau eraill, gall gweithgareddau hunanofal ganiatáu i ni daro cydbwysedd rhwng yr hyn y mae disgwyl i ni ei wneud, megis gofalu am blant, cadw trefn ar y siopa bwyd, mynd ati i wrando ar ffrind sy'n ofidus a rheoli sefyllfa llawn straen yn y gwaith. Yn gryno, mae'r holl bethau a allai achosi dioddefaint neu straen i ni, a'r camau a gymerwn i sicrhau nad ydym yn chwythu plwc neu'n gorwneud pethau mewn ffyrdd a allai ein gwneud yn sâl.
Gan fod pob un ohonom yn unigolion, mae'r pethau sy'n cynnig eiliadau o lonyddwch a maeth seicolegol i ni yn amrywio ac, o ganlyniad, bydd ein harferion hunanofal yn amrywio. Y peth pwysicaf yw meddwl am y pethau sy'n eich helpu i daro cydbwysedd, a meddwl beth yw eich nodau a'ch amcanion ar gyfer eich arfer hunanofal, gan y bydd hyn yn eich helpu i ddewis y gweithgareddau hynny a fydd fwyaf buddiol i chi.
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer pethau a allai eich helpu i ddechrau arni.
Awgrym Un
Ewch ati i gynllunio i wneud un gweithgaredd y dydd sy'n gwneud i chi deimlo'n hapus. Gall hyn gynnwys gwylio comedi, canu cân sy'n codi calon, mynd am dro, neu gael bath. Beth bynnag yw'r gweithgaredd, waeth pa mor fach ydyw, neilltuwch amser i'w wneud bob dydd. Ewch ati i wneud y gwaith o gynllunio'r darn bach hwn o lawenydd fydd mor gyffredin i chi â brwsio'ch dannedd, brwsio'ch gwallt neu olchi'ch wyneb.
Awgrym Dau
Cadwch yn brysur: Mae cysylltiad rhwng ymarfer corff dyddiol (hyd yn oed ymarfer corff ysgafn megis mynd am dro yn yr awyr agored) ag iechyd meddwl gwell. Gall symud eich corff ysgogi'r synhwyrau a helpu i newid eich meddyliau o batrymau ailadroddus neu negyddol, a gall hefyd chwalu hormonau straen.
Awgrym Tri
Chwiliwch am brofiadau newydd, gwybodaeth newydd neu weithgareddau newydd a all roi ymdeimlad o hyder neu gyflawniad newydd i chi. Efallai eich bod yn meddwl y bydd hyn yn anodd ei gyflawni mewn pandemig byd-eang, ond gallai fod mor hawdd ag archwilio podlediad newydd, er enghraifft.
Awgrym Pedwar
Ar ddiwedd pob diwrnod, gwnewch yn siŵr eich bod yn iawn. Gofynnwch i chi eich hun beth wnaethoch chi heddiw a helpodd i chi gael ymdeimlad o gydbwysedd a'r bobl hynny a gafodd effaith negyddol ar eich hwyliau. Yna, ewch ati i fyfyrio ar sut y gallech newid pethau yfory. Gwnewch hyn ar ffurf dyddiadur ysgrifenedig os yw'n helpu.
Awgrym Pump
Cadwch lygad ar natur a thôn eich deialog mewnol; er nad ydym yn ei gydnabod yn aml, gall y ffordd rydym yn ‘siarad’ â ni ein hunain ychwanegu at ein straen, gan gyfrannu at wneud i ni deimlo nad oes gennym reolaeth dros beth sy'n digwydd i ni. Yn lle hynny, dylech gefnogi'ch hun drwy siarad â'ch hun yn gadarnhaol. Er enghraifft, os byddwch yn sylwi eich bod yn siarad â chi eich hun mewn ffordd ddidrugaredd o ran tôn neu eiriau, ceisiwch fod yn fwy cadarnhaol yn lle hynny, gan ddweud pethau fel ‘Gallaf wneud hyn’, ‘Rwy'n ddigon’, ‘Gallaf ddod drwy hyn’, ‘daw'r cyfnod hwn i ben’.
Yn olaf...
Cofiwch nad oes yn rhaid i hunanofal fod yn gymhleth. Yn syml, caiff ei ddeall orau fel gweithgareddau sy'n cynnig eiliadau lle gellir adfer, adfywio neu feithrin eich ymdeimlad o'ch hunan. Wrth wraidd ‘hunanofal’ mae cydnabyddiaeth. Waeth beth sy’n digwydd yn ein bywydau, mae gennym gydberthynas â ni ein hunain, ac er mwyn cynnal iechyd meddwl da, mae angen i ni ofalu am y gydberthynas hon.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon