Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw

Mae “Pyliau o banig: beth ydyn nhw, a beth i'w wneud yn eu cylch” yn gwrs rhad ac am ddim a ddylai fod o gymorth i unrhyw un sy'n profi pyliau o banig neu banig, i'w teulu a'u ffrindiau, ac i unrhyw un sydd â diddordeb mwy cyffredinol mewn iechyd meddwl a’i driniaeth. Mae'r cwrs yn dechrau trwy archwilio diffiniadau ffurfiol o banig a phyliau o banig. Yna cyferbynnir y rhain â straeon personol o’r profiad o banig. Mae hefyd yn cyflwyno rhai o'r dealltwriaethau allweddol ynghylch pam mae pyliau o banig yn digwydd, ac yn rhoi trosolwg o'r prif ffyrdd y gall pobl gael help a helpu eu hunain.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • diffinio panig a phyliau o banig
  • deall nodweddion profiad personol o gael pyliau o banig
  • deall rhai o'r prif syniadau ynghylch pam bod pobl yn cael pyliau o banig
  • gwybod lle gallai pobl sy'n cael pyliau o banig ddod o hyd i gymorth neu sut gallant helpu eu hunain.

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2020

Wedi'i ddiweddaru: 30/11/2020

Hepgor Graddau y Cwrs