Mae gofalu am oedolion yn gwrs rhagarweiniol i unrhyw un sydd â rôl ofalgar, naill ai'n daladwy neu'n ddi-dāl. Mae'n adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes yn ei wybod i roi gwell dealltwriaeth i chi o'ch rôl fel gofalwr. Mae hefyd yn cefnogi'ch lles eich
hun trwy roi syniadau a gwybodaeth i chi am ofalu amdanoch eich hun a delio â straen.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- disgrifio rôl a chyfrifoldebau gofalwyr
- nodi rhai o'r cysyniadau sylfaenol a fydd yn sicrhau dull o ofalu sy'n canolbwyntio ar y person
- nodi gwahanol anghenion person sy'n derbyn gofal, yn ystod camau gwahanol o'i ofal
- deall yr effaith y gall gofalu ei chael ar ofalwyr, a sut y gellir rheoli hyn
- esbonio rhai o'r cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n rhan o'r rôl ofalu.
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/09/2019
Wedi'i ddiweddaru: 25/06/2020