Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 40 munud

Cymru a cherddoriaeth: sgwrs gyda Huw Stephens

Diweddarwyd Dydd Gwener, 10 Mawrth 2023

Mae cerddoriaeth wedi dod i chwarae rôl sylweddol yn hunaniaeth Cymru. Mae wedi ac yn parhau i fod yn ganolog i'r ffordd y mae llawer o Gymry yn meddwl amdanynt eu hunain ar y cyd fel cenedl, a'r modd y mae'r Cymry yn cael eu gweld y tu allan i Gymru. 

Dysgwch fwy am gyrsiau cerddoriaeth Y Brifysgol Agored. 

Yn y fideo hwn, mae Dr Martin V. Clarke a Dr Helen Barlow yn eistedd i lawr i siarad â'r DJ a'r cyflwynwyd teledu Huw Stephens am y syniad o Gymru fel 'cenedl gerddorol'.



Cynhaliwyd y drafodaeth hon ar 28 Tachwedd 2022 yn dilyn cyfres deledu Y Brifysgol Agored / BBC Wales: Music Nation, a gyflwynwyd gan Huw Stephens. Darllenwch ragor am yr arbenigwyr OU a gymerodd ran isod.



Dr Martin Clarke

Dr Martin V. Clarke

Pennaeth Disgyblaeth (Cerdd), Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Y Brifysgol Agored

Mae prif ddiddordebau ymchwil Martin Clarke yn ymwneud â’r berthynas rhwng cerddoriaeth, diwinyddiaeth ac ymarfer crefyddol, a hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Mae ei waith ar gerddoriaeth, diwinyddiaeth a chrefydd yn bennaf wedi canolbwyntio ar gerddoriaeth ac ymarfer crefyddol ym Mhrydain ers y deunawfed ganrif, a’r mudiad Methodistaidd yn ehangach. 


Dr Helen Barlow

Dr Helen Barlow

Uwch Gymrawd Ymchwil, Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Y Brifysgol Agored

Mae Dr Helen Barlow yn ymchwilio hanes cymdeithasol a diwylliannol cerddoriaeth ym Mhrydain, ac yn enwedig Cymru, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, ac eiconograffeg cerddoriaeth. Mae hi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn defnyddio dull rhyngddisgyblaethol, ac yn credu bod ei chefndir mewn llenyddiaeth a hanes celf yn cynnig safbwyntiau amrywiol ar hanes cerddoriaeth.


Cyfres deledu Wales: Music Nation


Cyd-gynhyrchwyd gan BBC Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru: Mae Wales: Music Nation with Huw Stephens  yn dilyn y cyflwynydd, y DJ a’r ffanatig cerddorol Huw Stephens wrth iddo ymchwilio’n ddwfn i stori ryfeddol ac amrywiol cerddoriaeth yng Nghymru.

Dewch o hyd i fwy o adnoddau dysgu am ddim wedi eu hysbrydoli gan y gyfres:


 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Wales and music: a conversation with Huw Stephens

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?